Mae Aelod y Senedd Lindsay Whittle wedi croesawu sylwadau o ffynhonnell awdurdod uchel ei barch ar drafnidiaeth, yn amau'r galw am orsaf newydd £33m yng Nghaerffili.
Yn ei blog, dywed yr Athro Mark Barry, tra bod gorsaf Caerffili yn flinedig ac yn brin o rhai cyfleusterau sylfaenol, mae’n gofyn a oes angen ail wampiad o £33m arno.
Mae Lindsay Whittle, sy’n cynrychioli Blaenau Gwent, Caerffili a Rhymni yn galw am ail ystyried ar frys gan Drafnidiaeth Cymru, ac wedi annog gweinidogion i adolygu'r cynllun arfaethedig.
Dywedodd Lindsay Whittle, sy’n gwrthwynebu dymchwel y swyddfa docynnau Fictorianaidd fel rhan o’r datblygiad “Deallaf yr hyn y mae’r swyddogion yn ei ddweud nad yw e’n unigryw. Ond mae’n rhaid i fi anghytuno. Yn ddiweddar gyrrais bost cyfrwng cymdeithasol ac mae hyn wedi denu 81,000 i edrych arno, a channoedd o sylwadau cefnogol. A bod yn onest, mae’r dref gyfan yn grac.
“Mae’r swyddfa docynnau bellach yn unigryw am fod cymaint o rai eraill wedi’u dymchwel. Rydym wedi colli ysgol a adeiladwyd ddiwedd y G18ed, ein hen orsaf heddlu, nifer o hen fanciau, siop crydd o’r 1700au a hen westy'r Clive, adeilad mawreddog.
“Hwn yw’r olaf o’r adeiladau can mlwydd oed gydag eithriad castell Caerffili, un capel a’r hen Ddadleudy.
“Petai gennym dref farchnad i ddenu ymwelwyr i’r datblygiadau newydd, gan ddefnyddio arian cyhoeddus yng nghastell Caerffili, yna’r argraff sydd ddim yn ddeniadol yw anghenfil wedi’i lunio o wydr a fydd yn sicr o droi pobol i ffwrdd.”
Yn ei flog, mae’r arbenigwr trafnidiaeth, Yr Athro Mark Barry, yn amau’r galw am gyfnewidfa £33m yng Nghaerffili.
Ysgrifennodd: “Mae sylwadau diweddar a datganiadau gan Lindsay Whittle AS wedi dod â’r holl beth yma’n glir i fi - a chredaf ei fod ar y cyfan yn gywir ynglŷn â gorsaf Caerffili. Mae cynlluniau wedi dod ymlaen yn sylweddol ar gyfer dymchwel ac ail adeiladau gorsaf Caerffili gwerth £33m sydd yn delio â thua 630k o deithwyr pob blwyddyn (Gorsaf Ganolog Caerdydd 12.5 m, Heol y Frenhines 2m. Cathays 930k a Phontypridd 780k) Bydd y buddsoddiad yma yn ddatganiad prosiect o’r radd uchaf sy’n uno rheilffyrdd Metro, bws, teithio gweithredol a chan obeithio, ail generadu pellach yn y dref.
“Ond mae £33m yn llawer o arian - a pha broblem ydym ni’n ei datrys yma? Oes galw am ddymchwel yn gyfan gwbl yr adeilad gorsaf Fictorianaidd? Allen ni sicrhau mwyafrif (os nad pob un) o’r enillion gyda buddsoddiad llawer llai? Yn berthnasol efallai, yw, a oes yna brosiectau rhanbarthol sy’n fwy haeddiannol o ariannu fel hyn?
“Rydw i, fel eraill, wedi meddwl ‘Ydy’ mae hwn yn gynllun teilwng sy’n haeddu’r buddsoddiad. Beth bynnag, dewch i ni gael edrych ar orsaf Caerffili; mae’n adeilad Fictorianaidd clasurol, gyda chwe thrên pob awr i mewn i Gaerdydd ac, yn brin iawn yng Nghymru, eisoes orsaf fysiau integreiddiedig wedi’i wasanaethu â bysiau o fannu ehangach.
“Ydy, mae yn flinedig ac yn brin o rhai o gyfleusterau gorsaf fodern, ond ydy e’n wirioneddol angen ail adeiladu gwerth £33m a fyddai’n dileu adeiladau’r orsaf wreiddiol. Onid oes yna ymyrraeth o raddfa ddynol a fyddai’n gwella’r orsaf Fictorianaidd sydd eisoes yn bodoli ac yn gwella mynediad, integreiddio, cyfleusterau, cyfarwyddiadau, yn darparu toiledau newydd, cafe ac ati.
Er enghraifft, beth arall allai £10m wneud i’r orsaf yma: a beth arall allen ni wneud gyda £23m ym mannau erial yn y rhanbarth”