Bydd Aelod y Senedd Plaid Cymru, Lindsay Whittle yn codi cwynion dros oedi dosbarthu llythyron ail ddosbarth gydag uwch swyddog y Post Brenhinol.
Dywedodd Lindsay Whittle, sy’n cynrychioli Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni: “Rydw i’n derbyn llawer o gwynion ynglŷn â’r Post Brenhinol ddim yn dosbarthu, yn enwedig post ail ddosbarth, yn brydlon.
“Mae gweithwyr lleol y Post Brenhinol hefyd wedi dweud wrthyf fod parseli a phost dosbarth cyntaf yn derbyn blaenoriaeth tra bod llythyron ail ddosbarth i weld yn cael eu gadael yn swyddfeydd y post.”
Dywedodd Lindsay Whittle y byddai’n codi’r consyrn yn uniongyrchol mewn cyfarfod gyda Krish Tangri, rheolwr rhanbarthol y Post Brenhinol dros Gymru.
“Mae mwyafrif y cwynion rwy’n eu derbyn yn ymddangos eu bod yn ymwneud â mwyafrif fy etholaeth sy’n awgrymu i fi bod yna broblem eang.
“Rydw i’n ymwybodol bod y Post Brenhinol yn gwneud newidiadau i’w gwasanaeth cyffredinol y mae gofyn arnynt i’w dosbarthu ond ddylai hynny ddim bod ar draul fy etholwyr.
“Yn y cyfarfod gyda Krish Tangri, byddaf yn edrych i dderbyn gwybodaeth fanwl am raddfa dosbarthu, yn enwedig ar gyfer post yr ail ddosbarth, o fewn fy etholaeth.”