Mae Aelod y Senedd Plaid Cymru, Lindsay Whittle wedi datgan y gallai ei blaid greu hanes yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.
Mae Aelod y Senedd Plaid Cymru, Lindsay Whittle wedi datgan y gallai ei blaid greu hanes yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.
Yn siarad yng Nghynhadledd y Gwanwyn yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn, roedd Lindsay Whittle, sy’n cynrychioli Caerffili, yn dweud ei bod yn hanfodol bod Plaid Cymru yn rhoi i Gymru'r hyn oedd arnom ei angen, petawn yn ffurfio’r Llywodraeth Cymru ac roedd yn hyderus y byddai hyn yn digwydd.
Mewn araith i godi calon, galwodd Lindsay i gof Isetholiad Seneddol Caerffili yn 1968 pan fentrodd y cefnogwyr freuddwydio am Gymru wahanol a Chaerffili gwahanol.
Gan ysbrydoli aelodau’r blaid dywedodd: “Nid cyd ddigwyddiad yw bod etholiadau’r Senedd mewn 68 niwrnod ac y y bydd Cymru yn wynebu realiti, sef bod y freuddwyd yn cael ei gwireddu. Gall tîm Rhun ap Iorwerth greu'r freuddwyd y buon ni’n breuddwydio amdani.
“Ystyriaf fy hun yn freintiedig i sefyll ochr yn ochr ag e wrth i ni naddu’r Gymru Newydd gyda’n gilydd. Anogaf i chi i adeiladu Cymru Newydd gyda’n gilydd. Y geiriau “gyda’n gilydd” yw hanfod Plaid Cymru. Dyma pam yr ydym ni yn perthyn yma.
“Ers fy nychweliad i’r Senedd, rydw i wedi sylwi ar newid mawr ym Mhlaid Cymru. Tra roedd yr aelodau hŷn yn hel atgofion...... sydd ddim yn beth drwg. Yr hyn allaf i ddweud wrthych chi bod yn Nhîm y Senedd aelodau craff ac, yn fwy pwysig, y tu ôl iddynt mae tîm ifanc dynamig proffesiynol lle mae eu meddyliau beunyddiol yn canolbwyntio ar y dyfodol.
- Dyfodol y Blaid
- Polisïau’r Blaid
- Dyfodol Cymru
- Llywodraeth y Dyfodol
Ychwanegodd Lindsay Whittle: “Holl hanfod hyn yw’r hyn y dylai llywodraeth fod. Fe#cj cyfeiriaf chi at yr hen ddywediad, wrth fethu paratoi, chi’n paratoi i fethu. Mae hyn wedi’i gerfio yn fy holl enaid. Mae yna benderfyniad i lwyddo sydd damaid yn brin o fod yn afaelgar.
“Nawr, peidiwch gwneud y camsyniad lleiaf. Does dim gwerth rhoi’r neges afaelgar hyn am Gymru newydd os na allwch ei throsglwyddo.
Mae Cymru yn disgwyl amser cyffrous. Mae’r adrenalin yn llifo trwy ‘ngwythiennau y oherwydd bod y gobaith hwn yn mynd i ddod yn realiti.
Mae galw i gof ar gyfer rhywbryd arall. Mae’r breuddwydion bellach bron a dod i ben, mae’n amser i ddeffro a throsglwyddo. Rhaid i ni, aelodau’r blaid hon, orchfygu a byddwn yn chwarae’n rhan ni yn y Gymru newydd.”
Yn galw i gof ei fuddugoliaeth yn yr isetholiad dywedodd Lindsay Whittle: “Meddyliwch yn ôl i’r bore hwnnw, Hydref 24ain, 2025. Pa mor dda oeddech chi’n teimlo? Gallaf warantu i’ch ffrindiau a’ch cymdogion nad nad meddwl am Gaerffili yn unig oedden nhw? Roedden nhw’n meddwl am y dyfodol.
“Mae’r polau piniwn wedi’n gweld ni’n dringo i fyny i safle uchel iawn, eraill yn ein gweld yn agosach fyth. Dan Rhun ap Iorwerth gallwn a gwnawn greu hanes.
Y to yma fydd y to na feiddiai ond breuddwydio. Dyma’r to a ddeffrodd o’r freuddwyd honno ac yn wirioneddol wneud iddo ddigwydd. Ymfalchïwch yn eich hunan. Y Gymru ifanc newydd, holl bobol Cymru.”
Dywedodd wrth aelodau’r blaid: “Ewch ymlaen wedi’ch arfogi i’r eithaf â’n polisïau, yr holl wedi eu costio. Ewch ymlaen i adeiladu’r Gymru Newydd. Chwaraewch eich rhan yn hanes.
“Ewch nôl i’ch etholaethau, ewch nôl â balchder. Chi fydd yr hanes hynny. Wnaiff pobol Cymru ddim eich anghofio. Wnaiff hanes ddim eich anghofio chi. Byddwch yr hanes yr ydych.
“Chi wnaiff ryddhau Cymru. Gawn i fyth eto weld sloganau wedi’u paentio ar waliau ‘Cymru Rydd’. Byddant yn perthyn mewn amgueddfeydd. Ymfalchïo y byddwn yn ein gorffennol wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus i Gymru dan ein Prif Weinidog newydd: Rhun ap Iorwerth. Ewch allan a gwnewch eich gwaith dros Gymru.” oedd geiriau olaf Lindsay Whittle