Lindsay Whttle yn Codi yn y Senedd Gyhoeddiad Caead Dinistriol Ffatri

Lindsay Whttle yn Codi yn y Senedd Gyhoeddiad Caead Dinistriol Ffatri

Mae Lindsay Whittle AS Caerffili wedi siarad yn y Senedd Ddoe (Dydd Mawrth) am gyhoeddiad ergyd ddinistriol cyn y Nadolig sef y bygythiad i gau safle Norsk Hydro gyda cholled o 125 o swyddi.

 

Gofynnodd AS Plaid Cymru i Jane Hutt, Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip i annog y Gweinidog Economi i wneud datganiad am yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud wrth drafod â rheolwyr y cwmni.

Dywedodd Lindsay Whittle, ar ymweliad â’r safle ddydd Llun lle bu’n siarad â’r rheolwyr a’r gweithwyr:  “Mae hon yn ergyd ddinistriol cyn y Nadolig ac os mai’r penderfyniad wedi’r ymgynghoriad fydd i gau, yna mae angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru arnom i gymryd camau taer i sicrhau ail hyfforddiant a, gobeithio, cyfleoedd cyflogaeth newydd mor gynted â phosib ar gyfer y gweithwyr hyn sy’n meddu ar sgiliau uchel.

“Ymwelais â’r safle ddoe. Siaradais ag un gweithiwr. Hon yw’rchweched gwaith iddo golli swydd yn ystod ei yrfa weithiol.  Siaradodd â chyn weithiwr alwminiwm hefyd a gafodd ei wneud yn ddi-waith yn ystod yr 1980au. Mae hon yn ergyd ddinistriol.”

Dywedodd Jane Hutt:  “Mae’r newyddion yn ofid mawr i weithlu Norsk Hydro, i’w teuluoedd ac i’r gymuned a safwn yn barod i gefnogi’r gweithlu a gaiff eu heffeithio gan y penderfyniad hwn.”