Mae Aelod y Senedd dros Gaerffili, Lindsay Whittle, wedi canmol gwaith prosiect cymunedol pobol ifanc sy’n gweithio yng Nghwm yr Aber.
Mae Prosiect SYDIC Hanes Llafar a Threftadaeth Pobol Ifanc wedi cynnwys canllaw arfer dda Cronfa Treftadaeth y Lotri drwy weithio gyda phobl ifanc a phlant. Y sefydliad, sydd wedi ei seilio yn Senghenydd, yw’r unig un i ymddangos o Gymru.
Dywedodd Lindsay Whittle a gafodd ei hun ei gyfweld ar gyfer y prosiect, sydd ynglŷn â newidiadau yng Nghwm yr Aber ar hyd y blynyddoedd: “Mae pobol ifanc wedi gwneud tipyn o waith gwych ac mae’n ffantastig iddo gael ei gydnabod gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
“Mae pobol ifanc yn aml yn cael eu beirniadu yn y wasg. Mae SYDIC (Canolfan Galw i Mewn Ieuenctid Senghenydd) yn gweithio gyda phobol ifanc a thrwy eu hannog i gyfrannu tuag at eu cymuned leol yn dangos yr hyn a ellir ei gyflawni.