Mae Aelod y Senedd Plaid Cymru Lindsay Whittle wedi siarad yn gryf am “sgandal” hen filwyr digartref yn ystod y drafodaeth yn y Senedd ddoe (Dydd Mawrth).
Gwnaeth Aelod o’r Senedd Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni'r pwynt i’r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth, gan fod y penderfyniad i yrru milwyr i ryfel neu i fannau peryglus yn gorwedd yn unig ar ysgwyddau Llywodraeth San Steffan, dylai’r mwyafrif y gefnogaeth i hen filwyr ddod o’r fan hynny.
Dywedodd Lindsay Whittle, cyn rheolwr cartrefedd: “Mae’n sgandal bod unrhyw berson sy’n ymladd neu’n amddiffyn y wlad hon i fod hyd yn oed mewn risg o ddigartrefedd.
“Os gwelwch yn dda wnewch chi gynnal trafodaethau gyda’r Prif Weinidog a Gweinidogion yn y Weinidogaeth Amddiffyn (MoD) i ofyn am fwy o gefnogaeth o’u cyfalaf nhw a sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn cael ‘chwarae teg’ (sic).”
Cyfarfu Lindsay Whittle â nifer o filwyr pan oedd ar ymweliad ag Afghanistan am bum niwrnod yn ystod y brwydro yno, tra’n arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ymwelodd Lindsay Whittle y brifddinas, Kabul, camp Bastion a Kamdahar a dywedodd ei bod yn fraint ac yn anrhydedd iddo gael cyfarfod â’r milwyr.
Wrth ymateb dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth: “Dylem i gyd wneud e’n fusnes i ni i sicrhau ein bod yn deall effaith pwysedd byw ar hen filwyr. Un o’n ymweliadau cyntaf fel Prif Weinidog oedd i ‘Valley Veterans’ lle trafodais â nifer o hen filwyr yno ar y mater hwn.
“Mae’r heriau y maent yn eu hwynebu yn benodol o gwmpas eu trosglwyddiad yn ôl i fywyd sifiliaid. Rhaid i Lywodraeth y DU gefnogi'r sawl a wasanaethodd ein gwlad a glynu at yr ymroddiad o roddwyd iddynt.
“Gweithiwn gyda’r MoD ar fentrau ledled Prydain er mwyn sicrhau eu bod yn cefnogi rhwydwaith gref y lluoedd arfog yng Nghymru. Cymerwn ein cyfrifoldebau ni dan gyfamod y lluoedd arfog o ddifrif, gan gynnwys ariannu Cyn Filwyr GIG Cymru.”
“Lle mae galw am gefnogaeth i gymunedau’n lluoedd arfog fel canlyniad i’w gwasanaeth mae’n iawn fod hyn ar gael. Byddwn yn parhau i gyflwyno’r achos yn gryf i Weinidogion y DU,” ychwanegodd.