Mae Aelod Seneddol Caerffii Lindsay Whittle wedi galw ar i ddatblygwyr dynnu yn ôl cynlluniau i ddatblygu tai ar dir ffermio yng Nghaerffili.
Mae’r datblygiad arfaethedig gan Harmoni Homes - math o gymdeithas dai fel United Welsh - wedi arwain at wrthwynebu ffyrnig gan bobl sy’n pryderu am golli eu Fferm Nant y Calch hoffus. Gallai’r safle oddiar Warren Drive hefyd olygu datblygu heol fynediad newydd.
Ond dywed Lindsay Whittle bod y tir ar yr ochr anghywir a dylai cartrefi newydd gael eu datblygu yn gyntaf ar dir llwyd.
“Fel un a fu’n rheolwr tai treuliais fy mywyd yn gosod pobol mewn cartrefi ond roedden nhw’n gartrefi yn y mannau cywir. Mae’r safle tir gwyrdd yma mewn rhan drefol o Gaerffili a dyw hon ddim yn safle gywir.
“Bydd codi cymaint â 44 o gartrefi yn golygu mwy o drafnidiaeth yn gadael Warren Drive ac i mewn i lôn gyflwym Mountain Road, sy’n mynd a chymudwyr i mewn i Gaerdydd a hefyd mae effaith y datblygiad yn effeithio ar wasanaethau fel meddygon teulu.
“Mae’r tir yma yn fan gwych i ymweld ag e, lle gall pobol ymlacio, mynd â’r ci am dro a mwynhau byd natur. Cofiaf ddod yma yn fachgen ysgol pan oeddwn yn ddisgybl mewn ysgol gyfagos. Yma arferwn redeg ein camp trawsgwlad.
“Mae hwn yn safle gyfan gwbl anghywir ar gyfer tai. Mae’r rhan fach yma o Gaerffili eisoes wedi cael mwy na’i siâr o dai newydd. Dywedaf wrth y datblygwyr, os gwelwch yn dda ewch i rywle arall, yn enwedig gan y gwyddom fod safleoedd tiroedd llwyd ar gael yn y dref yma. Mae’n rhaid i ni warchod ein safleoedd tir gwyrdd rhag cael eu difetha."