Lindsay Whittle yn Galw am Ddiwedd Saga Heolydd Wedi’u Mabwysiadu

Lindsay Whittle yn Galw am Ddiwedd Saga Heolydd Wedi’u Mabwysiadu

 Mae Aelod y Senedd, Lindsay Whittle, wedi galw ar Gyngor Caerffili ac adeiladwyr i ddod â threfn i saga sydd wedi gadael heolydd ar ystâd dai yn y dref mewn cyflwr ofnadwy.

Mae Lindsay Whittle, cyn arweinydd cyngor Caerffili, wedi’i lobïo gan drigolion sydd am i’r awdurdod ddefnyddio arian o Ardoll Isadeiledd Cymunedol fel y gellir mabwysiadau o’r diwedd heolydd ar Ystâd Kingsmead.

Mae’r mynediad o Heol Pontygwindy hyd ddechrau Waun Draw ar yr ystâd ar ganol y broblem, yn llawn ceudyllau mawr sy’n rhaid i drigolion ac ymwelwyr yrru o’u cwmpas.

Mewn e-bost i Lindsay Whittle, dywed Cyngor Caerffili: “Gallwn gadarnhau bod yna Gytundeb Adran 38 yn ei le rhwng CBS Caerffili a Taylor Wimpey ar gyfer mabwysiadu’r ystâd, gan gynnwys Waun Draw.

“Fodd bynnag, mae gwaith adfer heb ei wneud ac mae angen hyn ar y darn o’r briffordd sydd heb ei mabwysiadu, sy’n cysylltu Heol Pontygwindy â Waun Draw/ prif fynedfa’r safle.    Y mae galw ar i Taylor Wimpey ymgymryd ag ef cyn y gellir mabwysiadu’r ystad. Ar hyn o bryd does gennym ddim graddfa amser gan Taylor Wimpey i ddweud pa bryd y mae’n debygol y caiff y gwaith hwn ei wneud.”

Mewn e-bost dilynol dywedodd y cyngor: “Deallwn fod gohebiaeth yn mynd yn ei flaen rhwng Taylor Wimpey a pherchennog gwreiddiol y tir lle adeiladwyd y briffordd sydd wedi achosi oediad i’r gwaith adfer.

Mae Taylor Wimpey wedi dweud y bydd cynnydd tuag at ddatrys y mater yn cael ei wneud ac maent yn rhagweld diweddariad pellach ganddynt hwy ym mis Medi. Gwerthfawrogant yn gyfan gwbl rhwystredigaeth y trigolion oherwydd yr oedi o ran cynnydd i fabwysiadau’r briffordd.

Mae Taylor Wimpey wedi dweud ymhellach y dylai uwcholeuo unrhyw faterion cynnal a chadw i’w swyddfa De Cymru yng Nghaerdydd a byddant hwy yn mynd i’r afael â’r rhain.

Dywedodd Lindsay Whittle, Aelod y Senedd Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni: “Mae hon yn sefyllfa hollol wallgof sydd wedi bod yn mynd ymlaen am nifer o flynyddoedd ers i’r tai diwethaf gael eu hadeiladu.

“Mae’r cyngor yn derbyn arian gan ddatblygwyr ar gyfer ardoll isadeiledd cymunedol ac eto wedi methu datrys y smonach hon. Os oes galw am hynny, dylai’r awdurdod weithredu i orfodi’r datblygwyr i orffen hyn yn gyfan gwbl fel mater o frys. Edrychaf ymlaen at ddiweddariad gan y datblygwyr y mis nesaf.”

Dywedodd  Cynghorydd Plaid Cymru, Tref Caerffili, Martin Downes, sy’n byw ar Ystâd Kingsmead: “Annigonol yw dweud bod cyflwr truenus yr heol yn fater sydd wedi bod yn hir iawn. Y gwir amdani yw dros ddeng mlynedd wedi cwblhau’r adeiladu mae’r heol mewn cyflwr cynnal a chadw truenus.

“Bu rhyw ymdrechion i atgyweirio drwy lenwi ceudyllau ond nid yw dim o’r gwaith adfer hyn wedi gwneud unrhyw wahaniaeth. Mae hyn yn rhwystredig iawn i’r trigolion ar Ystad y Kingsmead. Mae diwedd i’r mater hwn wedi oedi’n ormodol. Hoffwn weld eglurdeb am y ffordd ymlaen, ymgymryd â chyfrifoldeb, a’r heol mewn cyflwr derbyniol.  Rydym wedi bod yn disgwyl yn ddigon hir.”