Lindsay Whittle yn Cefnogi Ymgyrch “Cyfraith Owain” Meinwe Tiwmor yr Ymennydd

Lindsay Whittle yn Cefnogi  Ymgyrch “Cyfraith Owain”  Meinwe Tiwmor yr Ymennydd

Croesawodd Lindsay Whitle Aelod y Senedd, Ellie James i’r Senedd oherwydd ei hymgyrch i ddod i ben â loteri côd post cudd, sydd yn golygu bod cleifion yn methu cael triniaeth sy’n ymestyn bywydau.

Daeth Ellie, sydd o Gaerffili, â fan gyda phoster digidol a’i chefnogwyr er mwyn amlygu’r ymgyrch wedi i’w gŵr, Owain farw pan ond yn 35.

Mae hi am roi diwedd ar anghysondeb rhewi meinwe ar draws GIG yng Nghymru ac yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno safonau cenedlaethol fel bod pob meinwe addas yn cael ei rhewi.

Dywedodd Ellie James: “Ond un cyfle caiff dioddefwr â thiwmor yr ymennydd. Os na chaiff y meinwe ei drafod yn iawn wedi triniaeth, mae’r cyfle hwnnw am brofi  pellach a thriniaeth bersonol yn mynd ar goll, yn aml heb fod y cleifion yn gwybod am ei fodolaeth.

“Yng Nghymru, lle mae canlyniadau eisoes yn waeth, dyw hyn ddim yn dderbyniol. Mae modd gwella hyn, ac mae’n rhaid iddo newid, ni ddylai’r un teulu fynd drwy'r hyn wnaethom ni.”

“Rydw i’n anghredadwy o ddiolchgar i Lindsay Whittle am ei gefnogaeth. Mae’n golygu llawer i fi fod fy nghynrychiolydd lleol yn ein cefnogi, ac i Blaid Cymru am ymroi i fynd i’r afael â’r mater hwn. Gobeithiaf y bydd pob plaid nawr yn camu ymlaen gan wneud yr un ymroddiad yn ystod etholiad hanfodol y Senedd.

Dywedodd Aelod y Senedd dros Gaerffili, Lindsay Whittle: “Mae Ellie yn ymgyrchydd gwych ac rydw i’n cefnogi ei hymdrechion yn llawn i ddod i ben â’r loteri côd post annerbyniol. Mae gofyn bod y canlyniadau i gleifion yng Nghymru ag angen hyn, ac mae’n rhaid cael gwelliant sylweddol.”