Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd Lindsay Whittle yn ystod trafodaeth yn y Senedd wedi codi gofidiau diogelwch ynglŷn â chynlluniau i gloddio am lo o domeni Bedwas, gwaith a allai fynd ymlaen am saith mlynedd.
Roedd yr AS dros Gaerffili yn siarad yn y Senedd am ei gonsyrn dros y cynigion gan gwmni adennill Energy Recovery Investments (ERI) i gloddio bron i 500,00 tunnell o lo a ellir ei ddefnyddio, ac yna tirweddu’r tipiau.
Mae cyfanswm o £230m wedi’i neilltuo ar gyfer adferiad tipiau yng Nghymru ond bydd hynny ond yn ddigon ar gyfer rhan fach o’r 2,500 o dipiau sydd yng Nghymru. Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irannca-Davies hefyd y byddai Awdurdod Tipiau Segur yng Nghymru yw seilio ym Merthyr Tudful.
Dywedodd Lindsay Whittle wrth gyfeirio at y cynllun posib ym Medwas:”Nid mater o bolisi cynllunio yw hwn, mae’n fater o ofid beunyddiol. Rydw i’n byw ym mhentref glofaol Abertridwr. Mae fy nheulu wedi’u trwytho yn hanes glo. Lladdwyd fy hen-dad-cu yn nhrychineb Glofa’r Universal yn Senghennydd a chollodd ail gefnder i fi ei fywyd yng Nglofa’r Windsor, Abertridwr.
“Roedd gennyf domen gwastraff glofa ar waelod fy ngardd ond mae bellach wedi’i dirweddu ac mae yna ysgol a thai yno.”
Aeth ymlaen: “Nid cynllun diogelwch yw’r cynllun ar gyfer glofa Bedwas. Caeodd glofa Bedwas wedi streic y glowyr yn 1984. Agorodd e byth wedyn. Yr hyn rydw i’n credu sy’n digwydd yno yw cloddio yn lladradaidd ac mae cymunedau ar y naill ochr i fynydd Bedwas yn byw mewn ofn na all hyn fod yn iawn.”
Anogodd y Dirprwy Brif Weinidog i sicrhau bod polisi’r llywodraeth yn gwarchod cymunedau rhag y cynlluniau ar gyfer mynydd Bedwas ac yn “atal echdyniad dan ddiwyg adferiad.”
“Dyna sy’n hala ofn arna i. Wnewch chi sicrhau bod yr adferiad pob amser yn golygu diogelwch y cyhoedd, ni ar gyfer elw preifat gan ymuno ag a sicrhau bod llywodraeth y DU yn cyflawni eu rhwymedigaeth ariannol i bobol Cymru?” gofynnodd i’r Dirprwy Brif Weinidog.
Wedi’r cyfarfod dywedodd Lindsay Whittle: “Mae’n rhaid bod diogelwch y tip yn hollbwysig ym mhob trafodaeth ac nad yw hynny’n destun trafodaeth. Mae hyn ar frig pob blaenoriaeth.”
“Os oes unrhyw lo i’w achub yna mae’n rhaid cael gwared ar y gwastraff ar hyd reilffordd a lorïau i’w gyrru ar hyd brig y mynydd ac i lawr y lein, yn bendant nid drwy Bedwas, Tretomas a Machen, na thrwy Wattsville na Chwmfelinfach nac Ynysddu.”