Mae Cyngor Caerffili wedi cadarnhau nad yw eu swyddogion wedi rhoi caniatâd i ddefnyddio logo swyddogol yr awdurdod ar bost cyfrwng cymdeithasol y Blaid Lafur.
Ysgrifennodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd gwrthblaid grŵp Plaid Cymru, at y Prif Weithredwr, Ed Edmunds, i achwyn am ddefnydd y logo ar ddeunydd plaid wleidyddol.
Yn ei ymateb dywedodd Mrs Edmunds:
Y Cynghorydd Bishop
Wedi trafod gyda chydweithwyr gallaf gadarnhau na geisiwyd caniatâd i ddefnyddio logo swyddogol Cyngor Caerffili yn y neges/daflen hon ac ni chymerodd y swyddogion rhan wrth ei chynhyrchu.
Gallai cynnwys logo'r cyngor, yn fy marn i, rhoi’r argraff bod y cyngor yn cadarnhau'r safbwynt hwn ac nid barn benodol plaid wleidyddol. Mae’n rhaid, wrth gwrs, fynd i’r afael a hyn.
Tra nad ydw i’n credu ei bod yn daflen ymgyrch, rydw i wedi codi hyn yn uniongyrchol gyda’r arweinydd a gofyn bod logo Caerffili yn cael ei ddileu (na’i defnyddio eto yn y ffordd yma yn y dyfodol.) Creda bod hyn nawr wedi’i wneud.
Diolch am ddod â’r mater hwn i’m sylw.
Diolch,
Ed
Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop; “Rydw i wedi’n siomi’n fawr nad yw arweinydd y cyngor wedi ymddiheuro a'i fod ceisio gwneud yn fach o fod wedi anwybyddu’n warthus rheolau ynglŷn â chysylltu cyhoeddusrwydd pleidiau gwleidyddol â’r awdurdod yn y ffordd y gwnaeth Llafur.
Dyw pleidiau gwleidyddol ddim yn gallu defnyddio logo awdurdodau lleol ar eu defnyddiau ymgyrchu yn y Deyrnas Unedig. Hyd yn oed â chaniatâd, ni ellir defnyddio brandiau swyddogol cynghorau ar lenyddiaeth ymgyrchu ddiduedd. Mae hyn wedi’i wahardd yn bendant iawn er mwyn bodloni safle niwtral cyrff cyhoeddus.
“Gwnaeth y Prif Weithredwr, yn glir, bod y daflen yn rhoi’r argraff bod y cyngor wedi cadarnhau’r sylwadau ar y neges cyfrwng cymdeithasol.
Mae galw ar i’r arweinydd wynebu’r rhwygiad hwn ac nid i geisio ei allwyro. Byddwn yn edrych ar y posibiliadau o wneud cwyn swyddogol ynglyn a’r rhwygiad difrifol hwn drwy swyddfa monitro’r cyngor. Mae galw archwiliad trylwyr i weld sut y digwyddodd hyn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Gary Enright, cyd ddirprwy arweinydd grŵp Plaid Cymru: “Mae’n arbennig o siomedig, eto ddim er syndod, bod yr arweinydd hwn (Y Cynghorydd Jamie Prichard) wedi penderfynu peidio ag ymddiheuro yn y mater hwn, dros ddefnydd logo Cyngor Caerffili. Mae ei weithredodd ond yn cadarnhau'r hyn y mae mwyafrif sylweddol trigolion y fwrdeistref hon o sut mae arweinyddiaeth y blaid Lafur Gymreig yn meddwl y gallant weithredu ac ymddwyn mewn ffordd sy’n anwybyddu pawb yn llwyr.
“Mae hi’n bwysig gwahaniaethu ochr wleidyddol unrhyw awdurdod lleol rhag ei ochr weinyddol swyddogion a’i staff. Eto, wrth ddefnydd Llafur Cymru o logo’r cyngor mewn erthygl ddiffygiol ac anwybodus, mae’n awgrymu bod y sefydliad hwn yn cydgynllunio yn feius a chamweddus ac mae hynny’n anfoesol. Am y rheswm hynny, os ydy’r cynghorydd Prichard wedi meddwl unrhyw beth o’r sefydliad hwn yna dylai gynnig ymddiheuriad llawn am y defnydd hwn.”