Ataliodd cynghorwyr Llafur ymdrech cynghorwyr Plaid Cymru i leihau'r codiad arfaethedig o 6.25% Yn nhreth y cyngor o fis Ebrill.
Anogodd Cyd Ddirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Gary Enright y cyngor llawn i dorri’r cynnydd i 4.25% ond bu pleidlais Llafur yn drech na nhw.
Dywedodd y Cynghorydd Gary Enright y dylid tynnu £1.5m allan o’r gronfa wrth gefn er mwyn cadw biliau treth y cyngor i lawr.
Beirniadodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru y codiad arfaethedig, gan ddweud bod pwysedd ar deuluoedd sy’n byw drwy galedi a phensiynwyr y straffaglu i dalu’r ffordd.
Dywedodd hi: “Dogfen mantolen ar bapur yw hon. Ond hefyd mae’n dod â chodiad o 6.25% yn nhreth y cyngor. Mae’n dibynnu ar £5.5 miliwn mewn blwyddyn mewn cynilion trawsnewidiol. . Ac mae’n gadael prinder o £8.4 miliwn yn y blynyddoedd i ddod.
“Nid dim ond ffigyrau yw’r rhain. Mae’r rhain yn bwysedd ar deuluoedd sy’n dal i fyw drwy galedi. Maent yn bensiynwyr - sydd wedi talu i mewn i gynlluniau pensiwn trwy eu bywyd gwaith, nawr yn gweld eu biliau yn codi’n uwch na’u hincwm. Staff y rhes gyntaf ydyn nhw y gofynnir iddynt ddod â mwy yn gyflymach a than fwy o straen.
“A thra bo ni’n siarad am dyfiant mewn refeniw, mae gormod o bobol yn y fwrdeistref yma yn dal i ddisgwyl am gartref diogel. Rhaid i dyfiant olygu sicrwydd. Mae’n golygu urddas. Mae’n gorfod golygu sefydlogrwydd i’n cymunedau.
“Gallwn ni ddim parhau i gyflwyno i drigolion gyda’r hyn sy’n teimlo fel argyfwng cyllideb pob blwyddyn - gofyn iddynt i amsugno’r effaith tra bo’r ansicrwydd yn parhau.
“Gwthiodd Plaid Cymru am ariannu ychwanegol ar gyfer cynghorau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru oherwydd ein bod yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus o bwys. Achos ein bod yn credu bod rhaid gwarchod Llywodraeth Leol. Oherwydd rydym yn credu taw pobol sy’n dod yn gyntaf. Dyw cloriannu’r llyfrau ddim yn ddigon.
“Datganiad moesol yw cyllideb. Mae’n dangos a ydym ni yn fodlon herio llymder parhaol - neu ond yn ei rheoli. Mae ein trigolion yn gwneud mwy na goroesi. Maen nhw yn haeddu tegwch. Maent yn haeddu sefydlogrwydd. Ac maent yn haeddu arweinyddiaeth sy’n cynllunio ar gyfer y dyfodol y maent yn gallu ymddiried ynddo. A dyna y byddwn ni yn parhau i sefyll drosto amdano.”
Dywedodd y Cynghorydd Gary Enright: “Pleidleisiodd y weinyddiaeth Lafur yma yn erbyn fy nghynnig, yn hytrach na chefnogi a chydnabod anghenion trigolion. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn eu tro yn erbyn y gyllideb ar sail y ffaith na fedrai’r weinyddiaeth Lafur hon allu cefnogi'r hyn yw hanfod y defnydd o arian trethdalwyr.”
Dywedodd y byddai codiad o 4.25% wedi lleddfu rhai o’r pwysedd costau ar gyllidebau teuluoedd.”Roedd gwrthod ein cynigion yn gywilyddus ac yn anfoesol.”