Gellir datgelu yn awr y bil terfynol i drethdalwyr yn dilyn ymadawiad cyn Brif Swyddog y cyngor Christine Harrhy sydd yn £280,000 anghredadwy.
Gadawodd Christine Harrhy ei swydd ym mis Hydref 2024, ychydig dros 6 mis i mewn i’r flwyddyn ariannol 2024 -25. Dywedwyd ar y pryd iddi gael setliad £209,000. Bu Ms Harrhy ar absenoldeb hir dymor neilltuol am 11 mis - ar gyflog llawn - pan adawodd y cyngor.
Yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol - 2023-24 - talwyd £183,682 i Ms Harrhy yn Brif Weithredwr am flwyddyn gyfan. Fe’i hapwyntiwyd yn Brif Swyddog Awdurdod segur Tipiau Cymru r yn gynharach eleni ar gyflog o £120,000 y flwyddyn.
Dywedodd Lindsay Whittle Aelod y Senedd dros Flaenau Gwent, Caerffili a Rhymni, a fu’n arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerffili pan adawodd Ms Harrhy. “Byddai dweud fy mod wedi fy llorio ddim yn cyfleu yn llawn fy syndod o bell ffordd. Mae hyn yn waeth nag oeddwn wedi ofni. Mae hyn yn gyfwerth ag ennill ar y Loteri a bydd pobol sy’n straffaglu â chostau byw yn ogystal â threth cyngor uwch yn teimlo sioc cyfiawn.
“Christine Harrhy oedd yr ail Brif Weithredwr i adael Caerffili â thâl anferth. Bydd etholwyr Caerffili â chyfle mis Mai nesaf i gael eu dweud am y ffordd mae Llafur yn rhedeg yr awdurdod lleol pan gynhelir etholiadau’r cyngor.”
Dywedodd Charlotte Bishop, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru (llun), “Mae’r datganiad hwn yn sioc i fi oherwydd chawsom ni fel cynghorwyr ddim gwybod beth oedd cost derfynol ymadawiad y cyn Brif Weithredwr.
“O ystyried diddordeb y cyhoedd yn hwn byddwn wedi disgwyl cael gwybod yn hytrach na gorfod twrio drwy ddatganiadau maith cyfrifon y cyngor.”