Gwnaed Hawlio Ffug i Gyfiawnhau’r Cyngor yn Tynnu yn Ôl o’r Grŵp Di-Niwclear, medd Swyddog

Gwnaed Hawlio Ffug i Gyfiawnhau’r Cyngor yn Tynnu yn Ôl o’r Grŵp Di-Niwclear, medd Swyddog

 'Gwarthus  a datganiadau ffals' ddywedwyd i gyfiawnhau penderfyniad i dynnu Cyngor Caerffili a redir gan Lafur i dynnu allan o grŵp Awdurdodau Gwrth Niwclear (NFLA) yr honnir.

Gwnaed y cyhuddiad gan Richard :Outram, Ysgrifennydd Awdurdodau Gwrth Niwclear y DU/Iwerddon mewn e-bost i gynghorwyr Plaid Cymru yng Nghaerffili.

Dywedodd y Cynghorydd Colin Mann, Cyd-ddirprwy Arweinydd grŵp Plaid Cymru, bod y llythyr gan Richard Outram yn gwrthddweud “y straeon tylwyth teg a glywsom ar y noson.”

Yn yr e-bost yma mae Richard Outram yn hawlio mai prin oedd yr NFLA yn cyfarfod, gan restri’r cyfarfodydd yn llawn. Dywedodd y gyrrwyd datganiadau i’r wasg, cylchlythyron a dogfenni briffio i gynrychiolydd y cyngor, y Cynghorydd Christine Forehead yn wythnosol rhan fynychaf, tan ei marwolaeth.

“Gan fod y ffeithiau hyn yn gwrthddweud yn gyfan gwbl y cyhuddiadau a wnaed, disgwylir cyswllt buan i wneud yn iawn gydag Ysgrifenyddiaeth yr NFLA/ Cyngor Dinesig Manceinion gan Weinyddiad Cyngor Caerffili ar y lefel uchaf. Byddaf hefyd yn archwilio fy ngwelliannau i gan fod fy anrhydedd a’m gonestrwydd fel swyddog wedi’i bardduo. Ddyweda i ddim mwy,” ychwanegodd Mr Outram.

Mewn e-bost i Richard Outram, dywedodd y Cynghorydd Colin Mann: “Mae hyn yn cadarnhau'r hyn yr oeddwn yn ei amau ers tro, bod y cynnig yn seiliedig ar sylfaeni ffals. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i ni yn fas iawn a dweud y lleiaf.  Fedrwn i ddim credu bod adroddiad mor wael wedi’i gyflwyno mewn ymdrech i gyfiawnhau penderfyniad mor bwysig.

“Fel un o’r bobol a bleidleisiodd i gefnogi’r NFLA yn y lle cyntaf roedd cywilydd arnaf fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cymryd y math hwn o benderfyniad ar sail adroddiad mor wael.

“Doeddwn ddim yn arbennig yn credu llawer o’r hyn a ddywedwyd gan y sawl a gefnogodd y syniad ond doedd gen i ddim o’r dystiolaeth i wrthbrofi’r  dwli ar y pryd.

“Diolch eto am osod allan y gwir ffeithiau sydd o gwmpas y mater, yn llwyr wrthddweud y storïau tylwyth teg a glywsom ar y noson.”

Dywedodd y Cygnhorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru: “Mae galw am adolygu’r penderfyniad i dynnu yn ôl o’r NFLA yng ngolau’r wybodaeth fanwl sydd wedi dod allan.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Greg Ead: “Mae’r ffeithiau manwl a osodwyd gan yr NFLA yn ei gwneud hi’n glir bod y cyfiawnhad gan y weinyddiaeth yn ystod y ddadl, yn ddigon syml, ddim yn wir ac yn wallus. Tra’n siomedig, dyw hyn yn anffodus ddim yn syndod.

“Nid hwn yw’r tro cyntaf i’r weinyddiaeth yma anwybyddu ffeithiau er mwyn barn leol neu ffantasi. Mae ein trigolion yn haeddu gwell na phenderfyniadau sydd wedi’u hadeiladu ar ffuglen a galwaf ar yr arweinydd i gyflwyno ymddiheuriad ar ran y Cabinet i'r NFLA am y pwyntiau anghywir a wnaed yn ystod y ddadl.”