Rhowch Ddiwedd ar Argyfwng Ceudyllau yn Ein Heolydd yw Anogaeth Cynghorydd Plaid Cymru

Rhowch Ddiwedd ar Argyfwng Ceudyllau yn Ein Heolydd yw Anogaeth Cynghorydd Plaid Cymru

Mae Cynghorydd Plaid Cymru, Steve Skivens yn mynnu gweithredu buan gan Gyngor Caerffili i ddod i ben â'r rargyfwng ceudyllau sy’n bla yn yr ardal.

 

 

Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth bod 56 ceudyllau wedi’u hatgyweirio ar ond darn o heol - Heol Groes-wen - yn ward y Cynghorydd Skivens, mewn llai na dwy flynedd ar gost o dros £9,000.

Cloriannodd Mair Arthur, landledi’r White Cross yn y Groes-wen, ar effaith yr argyfwng ceudyllauar ei busnes. “Rydw i wedi cwyno’n aml i Gyngor Caerffili, am fod dirywiad yr heol wedi effeithio’n
wael ar fy musnes. Mae cwmnïau tacsis wedi penderfynu peidio galw yn fy nhafarn oherwydd y difrod i’w cerbydau. Atgyweiriodd y cyngor y ceudyllau ar y 9fed o fis Ionawr. Mae’n fis Chwefror
erbyn hyn ac maen nhw yn ôl -oherwydd bod atgyweiriadau wedi’u golchi i ffwrdd gyda thyllau o ddyfnder o tua 5.5 modfedd yn ail ymddangos.

“Mae’n hollol wastraff arian tra bod fy musnes i, y capel a’n pentref ni yn dod yn hollol anghyraeddadwy.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Steve Skivens: “Mae bron pawb sy’n cysylltu â fi â stori am geudyllau ac mae’n gwaethygu. Mae pobol y Groes-wen yn dioddef ac nid nhw yw’r unig rai, o bell ffordd.”
“Ond beth sy’n mynd o’i le, pam mae’r peth mor wael y dyddiau yma, pam mae cymaint o arian trethdalwyr yn syrthio i mewn i geudyllau yn yr heol?

“Mae rhai pobol yn rhoi’r bai ar y newid hinsawdd a phatrymau’r tywydd. Eraill yn beio gwaith a dulliau gwael. A bod cymaint o drafnidiaeth yn gyfrifol.

“Ond yr hyn sydd yn glir yw bod ein heolydd yn treulio allan. Does dim angen mesurau tymor byr arnom, mae galw arnom i wario mwy ar ail-wynebu. Ond yn 2023-23 torrwyd y gyllideb o £3.4m i
£1m ac yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf i lawr i £739,000. Er mawr syndod, mae’n heolydd ni’n dirywio’n arwyddocaol.

Er bod y gyllideb wedi’i chynyddu ar gyfer 2025-26 mae pawb yn talu’r gost oherwydd agwedd tymor byr a’r toriadau ar wario’r cyngor Llafur.

“Mae hefyd y mater o ansawdd y gwaith ar heolydd a phalmentydd a wneir gan ymgymerwyr. Datgelais y llynedd bod 106 o gwynion wedi bod ac wedi eu codi yn erbyn cwmnïau am namau yn
ystod cyfnod o ddwy flynedd y bu galw am gywiriadau - 62 ohonynt yn cynnwys Dŵr Cymru Welsh Water.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Steve Skivens: “Mae’n hen bryd i’r cyngor a reolir gan Lafur, ac yn arbennig yr adran briffyrdd, i weithredu’n fuan ynglŷn a pheryglau’r ceudyllau. Mae galw arnynt
wneud yn well yn enwedig pan rydyn ni i gyd mewn amser anodd yn ariannol.”

Llenwir mwy na 5,000 o geudyllau'r flwyddyn gan yr awdurdod.