Rhowch Ddiwedd ar Gyfrinachedd Ynglŷn â Gwerthiant Fferm Solar, Mae Cynghorydd Plaid Cymru Caerffili yn Annog

Rhowch Ddiwedd ar Gyfrinachedd Ynglŷn â Gwerthiant Fferm Solar, Mae Cynghorydd Plaid Cymru Caerffili yn Annog

Mae cynghorydd Plaid Cymru Aneurin Minton yn mynnu tryloywder gan Gyngor Caerffili am werthiant Fferm Solar Cwm Ifor sydd ar y mynydd uwch ben ei ward.

Dywed  Cynghorydd Plaid Cymru, Aneurin Minton a etholwyd yn gynghorydd dros Benyrheol mewn isetholiad y llynedd, bod trigolion wedi’u methu  ynglŷn â gwerthiad y fferm solar gan gyfeirio at addewidion a dorrwyd ynglŷn â thrydan rhatach.

Mae Cyngor Caerffili a redir gan Lafur eto i ddatgelu pris y fferm solar i Fuse Energy, mater y mae cynghorydd Penyrheol wedi condemnio.

Dywedodd y Cynghorydd Aneurin Minton:  “Pan ystyriwyd Fferm Solar Cwm Ifor yn gyntaf fel prosiect cyhoeddus, daeth â gobaith gwirioneddol i drigolion Penyrheol.  Rhoddwyd  addewid i’r trigolion, a effeithiwyd gan y datblygiad, y byddai buddiannau pendant gan gynnwys biliau egni rhatach a chyfleoedd ar gyfer buddsoddiadau lleol.

“Yn lle hynny, mae’r cyngor wedi gwerthu’r prosiect i gwmni preifat heb gysylltu â chynghorwyr lleol neu’r gymuned, ac maen nhw nawr yn dal pris yr arwerthiant oddi wrth y cyhoedd. Mae hyn yn gwbl annerbyniol.

Rydw i’n gefnogwr cryf o isadeiledd gwyrdd: rhaid i ni symud yn gyflym tuag at sicrwydd egni. Ond eto, mae Cyngor Caerffili wedi gwastraffu cyfle euraid i gyflwyno prosiect a fyddai o fudd economaidd i’r pwrs cyhoeddus ac yn ased gwirioneddol i’n cymuned.

“Mae trigolion yn haeddu tryloywder llawn  ynglŷn â lle’r aeth yr arian yma a pam y cawsant addewid o fuddiannau cymunedol a pam y gosodwyd i’r neilltu fuddiannau cymunedol,” ychwanegodd.