Mae Dŵr Cymru wedi gorfod cywiro mwy o namau yn Sir Caerffili wedi gwaith cynnal a chadw ar strydoedd na’r holl gyrff ystadudol eraill wedi eu gosod gyda’i gilydd, datgelodd Plaid Cymru.
Dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gofynnodd Plaid Cymru i Gyngor Caerffili faint o gwynion a gawsant am safon y gwaith a wnaed rhwng Ebrill 1af, 2023 a Mawrth 31ain, 2025.
Wrth ymateb cadarnhaodd y cyngor bod 62 o namau, fel eu gelwir dan Adran 72, wedi codi yn erbyn Dŵr Cymru Yn ail i hyn oedd Gwasanaeth Cymru a’r Gorllewin oedd ar 18. Derbyniwyd cyfanswm o 108 cwyn yn erbyn gwasanaethau ystadudol fel cwmnïau dŵr a telecom dros y cyfnod o ddwy flynedd.
Dywedodd cynghorydd Penyrheol, Steve Skivens, iddo ofyn am yrru am y wybodaeth wedi iddo dderbyn cwynion a gafodd am safon yr atgyweiriadau a gwaith ailosod yn Sir Caerffili.
Dywedodd y Cynghorydd Steve Skivens: “Rydw i’n gwerthfawrogi bod galw am balu heolydd a phalmantau am amryw resymau fel atgyweirio dŵr sydd yn gollwng neu osod ceblau.
“Ond dydy hi ddim yn dderbyniol pan fod gwaith ail osod o safon isel a bod swyddogion y cyngor wedyn yn treulio eu hamser yn mynd ar ôl y gwasanaethau ystadudol.
“Rydw i’n gwerthfawrogi bod Dŵr Cymru yn delio gyda llawer o faterion gan gynnwys gollwng carthion i mewn i afonydd a’r môr, ond dydy hynny ddim yn esgus dros beidio â chwblhau gwaith atgyweirio yn foddhaol.
“Dengys y wybodaeth a gefais bod nifer y ceisiadau am waith adfer i’w gwblhau gan Ddŵr Cymru yn 65% o’r holl geisiadau a dyw hynny ddim yn ddigon da. Rydw i am weld llawer gwell gwaith ail osod gan bob un o’r rhai sy’n palu’n heolydd a’n palmentydd.”