Dywed Aelod y Senedd Lindsay Whittle ei fod wedi’i syfrdanu â’r oedi wrth ailagor Swyddfa Bost amgen yng nghanol Caerffili – mwy na thebyg am fisoedd.
Dywedod Lindsay Whittle: “Rydw i’n grac ac yn ddig bod Swyddfa’r Post wedi caniatáu i’r sefyllfa hyn ddigwydd. Cawsant ddigon o rybudd. Fe es i â nhw i un lle y dywedon nhw oedd yn wych. Ond wedyn dywedodd swyddogion y Swyddfa Bost bod ganddyn nhw opsiwn arall ond yn gwrthod dweud wrthyf ym mhle. Nawr ni nôl i'r dechrau.
“Mae’n rhaid i fi amau a yw Swyddfa’r Post o ddifrif ynglŷn â darparu gwasanaeth neu ydyn nhw ond yn camarwain pobol Caerffili. Mae’r oediad yma yn golygu bod nifer o bobol sy’n byw o gwmpas canol y dref yn gorfod parhau i wneud y siwrnai i Castle View neu Penyrheol sydd yn dipyn o daith ac yn cymryd llawer o amser.
“Gydag ymgeiswyr potential â than Fedi’r 13eg i fynegi eu diddordeb, gallai hyn fod nifer o fisoedd cyn yr ail sefydlir swyddfa post yng nghanol y dref.”
Mewn e-bost i Aelod Seneddol Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni dywedodd Swyddfa’r Post: “Rydw i’n cysylltu â chi i gynnig diweddariad ar y cais y buom yn mynd yn ei flaen ag e ar gyfer swyddfa bost Caerffili.
“Yn anffodus, doedd y cais ddim yn llwyddiannus ac rydym, felly, yn hysbysebu am weithredwr newydd.
“Gwerthfawrogwn fod y newyddion hyn yn siomedig ac yn ymddiheuro i’n cwsmeriaid am yr oedi wrth ail sefydlu gwasanaethau’r swyddfa bost yng Nghaerffili.”
· Cyswllt i hysbyseb diweddaraf Swyddfa’r Post am Bostfeistr: https://runapostoffice.co.uk/branch/caerphilly-post-office-caerphilly-cf83-1nu?search_term=CF83%201AA
Cododd Lindsay Whittle y mater mis diwethaf (Gorffennaf) pan wnaeth Swyddfa’r post gynnal arddangosfa yn y Senedd.