Mae Cynghorwyr Plaid Cymru wedi condemnio’r penderfyniad gan y cyngor, a redit gan Lafur, i beidio ailsefydlu bysiau ysgolion ar gyfer plant a dorrwyd mis diwethaf.
Pleidleisiwyd Arwydd o Gynnig i lawr mewn cyfarfod o bwyllgor craffu addysg yr awdurdod neithiwr (Hydref 13eg).
Mae penderfyniad y cyngor i dorri trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol ar gyfer cannoedd o ddisgyblion yn golygu bod llawer yn gorfod cerdded hyd heolydd prysur iawn, yn annog ofnau rhieni am ddiogelwch eu plant.
Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru: “Methwyd a phasio’r cynnig yn ystod pwyllgor craffu addysg, penderfyniad hollol warthus.
“Mae’n ddiwrnod trist i blant a theuluoedd Caerffili. Trwy bleidleisio yn erbyn diogelwch ein plant ar eu taith yn ôl ac ymlaen o’r ysgol, mae cynghorwyr wedi gyrru neges anghywir i’n cymunedau.
“Mae pob plentyn yn haeddu gallu teithio i’r ysgol yn ddiogel, ac mae rhieni yn haeddu’r sicrwydd mai lles eu plant sy’n dod gyntaf. Dylai hyn fod byth wedi dod yn fater gwleidyddol, ac rydw i’n siomedig iawn â’r canlyniad.”

Cyhuddodd y Cynghorydd Teresa Parry, a luniodd y cynnig, gynghorwyr Llafur o droi’r mater o drafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol i mewn i fater pleidiol gwleidyddol.
Dywedodd hi: “Fy nghonsyrn i bob amser oedd diogelwch plant oedd yn cerdded i’r ysgol hyd yr hyn rydw i’n credu sy’n lwybrau anniogel. Fel cadeirydd pwyllgor craffu addysg, mae gen i gonsyrn hefyd ynglŷn â’r canlyniadau addysgol, oherwydd bod y cymunedau hyn y sonnir amdanynt ym Mynegai Cymru o Amddifadedd o ran cyflawniad addysgol. Mae hon yn ergyd aruthrol i blant a’u rhieni.
“Cefais fy nghyhuddo o fod yn wleidyddol yn ystod adeg cyn etholiadau'r flwyddyn nesaf, ac rydw i’n digio am hynny wrth i fi wneud fy ngorau fel bod cynghorwyr yn clywed hyn cyn i dymor mis Medi ddechrau.
“Gosodwyd y cynnig gwreiddiol yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin ond dyfynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Rob Tranter, fesurau trefniadol pam na ellid ei glywed cyn mis Tachwedd fan cyntaf. Gallai’r cynghorwyr Llafur fod wedi dod o hyd i ffordd fel y gellid clywed y cynnig yr adeg honno ond penderfynasant wmeud dim byd.
“Doedd erioed reswm dros ddod â gwleidyddiaeth i mewn i’r cyfarfod ac ni ddylai fod wedi chwarae unrhyw ran yn y trafodaethau oedd i ddiogelu ein plant a ddylai pob amser fod yn flaenoriaeth.”