Clod i Weithwyr y Cyngor gan Arweinydd y Blaid yn Sgil Storom Claudia

Clod i Weithwyr y Cyngor gan Arweinydd y Blaid yn Sgil Storom Claudia

Mae Arweinydd  Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerffili, Charlotte Bishop wedi canmol gweithwyr y cyngor am eu hymdrechion a’u hymateb yn ystod Storom Claudia.

Dywedodd cynghorydd Cwm yr Aber: “Hoffwn ddiolch i’n holl weithwyr am y modd iddynt ddelio ac ymateb  yn ystod Storom Claudia.

“Yr hyn sy’n bwysig y tro yma oedd bod yr amseru llawer iawn gwell gyda’r criwiau allan yn gyflym ac yn gweithio’n galed. Roedd pobol yn sylwi - nid cynghorwyr yn unig ond trigolion,  a hynny sydd yn  bwysig.

“Rydw i’n gwybod  y bu llawer o waith paratoi ar gyfer digwyddiadau fel hyn, ond mae’n bwysig uwcholeuo gwaith y staff pan mae pethau’n mynd yn dda.  Mae cymunedau’n gweld yr ymdrech ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop bod y paratoi o flaenllaw yn greiddiol oherwydd mae bod o flaen y gad pob amser yn mynd i fod yn rhatach, mwy diogel ac yn gosod llai o bwysedd ar bawb.

“Mae’n bwysig clirio draeniau a gylïau cyn glaw trwm, fel ein bod ddim yn gorfod delio gyda llifogydd ar ein heolydd ac mae galwadau brys yn allweddol yn ogystal â chlirio dail i sicrhau nad yw’r cwteri yn gaeedig."