Byddwch yn glir am y Bwriad i Drosfeddiannu’r Tŷ Hanesyddol, mae Cynghorydd y Blaid yn Mynnu

Byddwch yn glir am y Bwriad i Drosfeddiannu’r Tŷ Hanesyddol, mae Cynghorydd y Blaid yn Mynnu

Mae cynghorydd Plaid Cymru Greg Ead yn mynnu cael gwybod beth sy’n digwydd dros ddyfodol y Maenordy Tuduraidd, Llancaeach Fawr.

Mae’r adeilad hanesyddol wedi gorwedd yn wag am bron i flwyddyn ers ei gau mewn ymdrech i arbed costau yn y cyngor a reolir gan Lafur. Ym mis Gorffennaf dywedodd yr awdurdod iddynt ddewis gweithredwr dewisol a bod dyfodol Llancaeach Fawr yn ddisglair.

Ond mae Cynghorydd Penyrheol, Greg Ead, wedi holi drwy gais Rhyddid Gwybodaeth (FoI)  i’r cyngor gan ofyn: “Pam mae hi’n cymryd gymaint o amser i drafod a delio gyda’r gweithredwr? Mae hyn yn awgrymu bod yna broblemau ond bod y cyngor wedi adeiladu wal o dawelwch.

“Mae trethdalwyr Caerffili yn haeddu cael gwybod beth sy’n digwydd oherwydd rwy’n ofni'r ffordd mae’ pethau’n mynd  y bydd y lle ddim ar agor mewn pryd ar gyfer y gwanwyn neu’r haf nesaf. Credaf fod y trafodaethau wedi cyrraedd anhawster gyda’r  gweithredwr dewisol. Fedrwn ni ddim oedi am flwyddyn arall â’r cyfleustra dymunol hwn ar gau i’r cyhoedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Greg Ead iddo wneud cais am gwestiwn am Lancaeach Fawr i’w ateb yng nghyfarfod y cyngor fory (Dydd Mawrth, Tachwedd yr 11eg) ond fe’i gwrthodwyr am fod dau gwestiwn arall eisoes wedi eu cynnig gan gynghorwyr, er gwaetha’r  ffaith bod cyfansoddiad y cyngor yn datgan y gellir gofyn tre chwestiwn.

“Beth mae’r cyngor Llafur yma’n ceisio cuddio rhag y cyhoedd? Mae galw arnynt i fod yn onest ac yn glir.”

Mewn y’rmateb FoI gan y cyngor dywedwyd bod yr awdurdodo yn “parhau i wneud cynnydd gydag amodau cytundeb..... gyda’r gweithredwr dewisol.”

Datgelodd y cyngor bod cynnal a chadw’r Maenordy a’r tir yn costio £6,504 y mis ond bod y gost yma wedi’i gostwng drwy hurio’r safle fel man i ffilmio, gan leihau’r gwariant ddiwedd mis Hydref i gyfartaledd o £3,903 y mis.