Etholwyd cynghorydd Cwm yr Aber, Charlotte Bishop heb unrhyw wrthwynebiad, yn arweinydd benywaidd cyntaf grŵp Plaid Cymru Caerffili.
Daeth y Cynghorydd Charlotte Bishop, sy’n 44, yn gynghorydd yn 2021 yn lle Lyndon Binding. Daeth yn ddirprwy arweinydd grŵp y Blaid wedi etholiadau trefol 2022.
Dewisodd y grŵp hefyd dau ddirprwy arweinydd, y cyn arweinydd Colin Mann a’i gyd gynghorydd dros ward Llanbradach, Gary Enright, cyn weithiwr gyda Chyngor Caerffili ac undebwr.
Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, sy’n briod a chanddi bedwar o blant; “Hoffwn ddiolch i fy nghyd gynghorwyr am eu hyder ynof drwy fy ethol yn arweinydd, arweinydd benywaidd cyntaf Plaid Caerffili. Rydw i’n cydnabod y bydd hi’n anodd dilyn Lindsay Whittle a chanddo flynyddoedd o arweinyddiaeth, profiad a gwaith yn y gymuned.
“Rydw i’n bwriadu gweithio’n agos iawn gyda Lindsay, fel aelod Senedd dros Gaerffili ac aelodau de ddwyrain Cymru yn y Senedd, Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths.
“Mae cynghorwyr y Blaid wedi penderfynu cryfhau arweinyddiaeth y grŵp drwy apwyntio dau ddirprwy arweinydd i’n harwain ni tuag at etholiadau’r cyngor yn 2027.
“Mae cyngor Caerffili yn wynebu heriau sylweddol gydag ysbryd y staff yn is nag erioed ac mae hynny yn effeithio popeth gan gynnwys y gwasanaeth a roddwn. Mae galw am adeiladu ymddiriedaeth o fewn y cyngor ac allan yn y gymuned. Rydym yn wynebu newid a thrwy weithio gyda’n gilydd gall Plaid Cymru ysbrydoli, ail adeiladau ac arwain gwell dyfodol ar gyfer Caerffili.”
Mae’r Cynghorydd Bishop wedi adeiladu presenoldeb cryf ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddenu dilynwyr sylweddol i’r blaid yn lleol ar Tik Tok drwy estyn allan at bobol iau yn ogystal â bwrw dros filiwn o safbwyntiau ar Facebook yn ystod cyfnod o bedair wythnos.
Ychwanegodd: “Gwnaeth ymgyrch isetholiad Senedd Lindsay fy atgoffa mai nid yn unig yr hyn rydym yn ei ddweud sy’n bwysig ond y ffordd rydym yn ei ddweud e - gyda dilysrwydd a chalon.”
Yn athrawes ysgol feithrin, mae Charlotte yn dysgu hunan amddiffyniad i deithio i’r Iwcrain tra ei bod hi hefyd yn cymryd dosbarthiadau hunan amddiffyniad yng nghlwb paffio cicio ei gŵr Nathan.
Y tri arweinydd blaenorol y Blaid oedd Lindsay Whittle, a gamodd i’r neilltu yn gynghorydd wedi’i ethol i’r Senedd, Colin Mann a’r diweddar Allan Pritchard.