Bydd codiad arfaethedig cyngor Caerffili o 6.25% o fis Ebrill yn golygu bod biliau wedi llamu 22.5% i fyny mewn ond pedair blynedd.
Dangosodd ymchwil gan Blaid Cymru bod trigolion ar Band D treth y cyngor yn talu £1658 yn 2026-27 dros £305 yn fwy na 2023-24 pan oedd yn ffigwr yn £1,353.
Yn y flwyddyn ariannol gyfredol aeth treth y cyngor i fyny o 7.9% a oedd yn dilyn codiad o 6.9% yn 2024-25 a chodiad o 7.9% yn 2023-24.
Dywedodd y cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru: “Ymddengys mai teuluoedd sy’n gweithio yw’r sawl a ddisgwylir i amsugno’r codiadau hyn blwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Mae mesurau i gefnogi pobol sydd ar yr incwm isaf, ac mae hynny ond yn iawn, ond ychydig iawn o gydnabyddiaeth sydd i deuluoedd sy’n gweithio ac sydd dim ond jest yn ymdopi. Mae gan nifer o gartrefi lle mae’r ddau riant ond yn gweithio am, yn ddigon syml, na allan nhw fforddio peidio â gwneud, eto does ganddyn nhw ddim cymorth o gwbl.
“Unwaith mae treth y cyngor, egni, bwyd a gofal plant wedi eu talu yn aml does dim byd ar ôl - dim ond pryderu sut i fynd drwy’r mis nesaf. Mae codiad o dros 22% mewn ond pedair blynedd, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw, yn anodd ei gadarnhau.”
Dywedodd Cyd-ddirprwyi’r Grŵp y Cynghorydd Colin Mann: “Eisoes mae gennym nifer fawr o bobl sy’n gweithio yn mynd i fanciau bwyd rhag yw teuluoedd fynd yn newynog. Mae’r cynigion hyn yn gosod mwy o bwysedd ar bawb.
“Mae pensiynau’n llusgo ymhellach y tu ôl. Mae nifer o bensiynau’r sector breifat yn talu tamaid yn fwy na 2.5 - 3% o gynnydd, ac yn aml llai na hynny. Mae pensiynau pensiynwyr yn aml yn fwy hael ond ddim i’w cymharu â’r cynnydd mewn costau gwasanaethau cyhoeddus, bwyd ac egni wrth gwrs.”