Prynwch Fwy yn Lleol, Mae Arweinydd Plaid Cymru yn Annog Cyngor Caerffili

Prynwch Fwy yn Lleol, Mae Arweinydd Plaid Cymru yn Annog Cyngor Caerffili

Mae Plaid Cymru yn galw am adolygiad llawn o bolisi pryniant Cyngor Caerffili gyda golwg ar i fwy o arian gael ei wario yn lleol.

Daw’r apêl gan y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerffili, yn canlyn ffigyrau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru sy’n dangos bod yr awdurdod yn gwario ond 25% o’i bil caffaeliad  o £319m ar nwyddau a gwasanaethau o fewn y fwrdeistref sirol.

Gwariwyd 35% o wariant y cyngor y tu allan i Gymru yn ystod 2024-25.

Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop: “Mae galw arnom i ofyn a allwn ni wneud mwy i gadw arian y trethdalwyr i weithio i Gaerffili - gan gefnogi busnesau lleol, swyddi lleol a’n heconomi leol.

“Mae’n rhaid bod gwerth am arian yng nghalon caffaeliad  cyhoeddus, ond hefyd mae’n rhaid i ni ofyn a yw’r sustem bresennol yn cyflawni’r gwerth gorau am arian ar gyfer trethdalwyr Caerffili.

“Os defnyddir yr un ymgymerwyr drwy’r amser ar gyfer gwaith yr awdurdod, ydyn ni’n gwneud digon i brofi’n gywir y farchnad gan roi i fusnesau eraill - yn enwedig busnesau lleol a Chymreig - gyfleoedd gwirioneddol ar gyfer cystadlu?” gofynnodd y Cynghorydd Charlotte Bishop.

Aeth ymlaen: “Dydw i ddim yn awgrymu y dylid ond eu rhoi i gwmnïau lleol, dim ond am eu bod yn lleol, neu ein bod yn cyfaddawdy ar ansawdd neu werth am arian. Y gwrthwyneb sy’n wir.

“Mae galw am adolygiad llawn i mewn i’r ffordd y mae cytundebau yn cael eu rhoddi, pa mor aml gaiff y farchnad ei ailbrofi, a ydy’r trefniadau presennol yn dal i ddarparu’r gwerth gorau ac a  ellid agor i fyny mwy o gyfleoedd i fusnesau lleol.

“Os allwn ni gael gwell cystadlu, gwell gwerth am arian a chadw mwy o’r arian hynny yn cylchredeg o fewn Caerffili a Chymru, os bosib nad yw hwn yn rhywbeth i edrych i mewn iddo.”

Dengys y ffigyrau y cafodd £208.6 miliwn o fewn Cymru, ond dim ond £79.6 miliwn a wariwyd o fewn Caerffili. Mae hyn yn golygu bod swm sylweddol o arian cyhoeddus yn cael ei wario y tu; hwnt i’r sir.

“Rydw i am weld Cyngor Caerffili yn adolygu ei drefniadau caffaeledd ac enwi lle allan ni wneud mwy yn gyfreithiol er mwyn cefnogi ein cymuned leol, heb amharu ar werth am arian.

“Rhaid i ni sicrhau fod pob punt a wariwn fel Cyngor yn cael ei wario  cymaint â bo modd er lles trethdalwyr a busnesau Caerffili yn arbennig, sydd er lles i’n cymunedau.” Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop.