Trigolion Bedwas yn Galw am Ailfeddwl Llwybr “Annigonol” i’r Ysgol

 Trigolion Bedwas yn Galw am Ailfeddwl Llwybr “Annigonol” i’r Ysgol

Mae dros 400 o drigolion Bedwas wedi arwyddo deiseb yn protestio am y newidiadau i gludiant ysgolion yn sir Caerffili.

Cyflwynwyd y ddeiseb i brif weithredwr Cyngor Caerffili, Ed Edmunds gan gynghorydd Plaid Cymru Steve Skivens.

Bydd y toriadau o fis Medi yn effeithio ar ddisgyblion yn teithio o ardal Bedwas i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, campws Y Gwyndy, ar Heol Pontygwindy. Maent yn mynd i golli eu bws ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Skivens: “Os aiff y toriadau hyn yn eu blaen yr opsiwn i ddisgyblion bydd naill ai i gerdded i’r ysgol drwy orfod croesi heol osgoi brysur neu deithio mewn car preifat, os ar gael, fyddai’n gosod mwy o rwystrau ar heolydd lleol.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf lleihawyd y nifer o swyddogion croesi’r heol. Dyw prosiectau Llywodraeth Cymru ar Lwybrau Diogel i Gymunedau ddim mor bell ymlaen ac awdurdodau lleol eraill er bod yr un ariannu ar gael.

“Mae gofyn i blant ifanc gerdded eithaf pellter i’r ysgol yn cario bagiau ac offerynnau cerdd yn gofyn llawer. Mae croesi heolydd prysur a materion diogelwch yn codi consyrn pellach.  Yna, beth sy’n digwydd yn y gaeaf a thywydd garw sydd hefyd yn codi?

“Mae galw ar i arweinyddion Llafur ar gyngor Caerffili, hyd yn oed mor hwyr â hyn, ail feddwl am y penderfyniad amhoblogaidd hwn. Dylen nhw o leiaf gynnig cyfnod o newid megis cefnogaeth barhaol ar gyfer disgyblion yn teithio i’r ysgol tan fydd mesurau gwelliant wedi eu gosod yn eu lle.

“Beth fydd gan y cyngor i’w ddweud petai rywbeth yn digwydd i blentyn yn cerdded i’r ysgol ar hyd llwybr prysur iawn?”

Dywedodd yr ymgyrchydd Max Joseph: “Dylai’r cyngor ailfeddwl am y toriadau i gludiant i ysgolion.  Bydd y penderfyniad yn gorfodi disgyblion Cwm Rhymni groesi ffordd osgoi Caerffili.”

“Mae’r heol yma yn brysur iawn naill ai’n gyflym iawn neu mae tagfeydd gyda damweiniau ceir yn digwydd yn aml ac achosion bu bron a digwydd. Bydd hyn yn risg i fywydau