Dewiswyd yr ymgyrchydd Anthony Cook gan Blaid Cymru i gystadlu yn isetholiad Hengoed ddydd Iau, Awst 6ed.
Mae Anthony, 37, sy’n dod o Gefn Hengoed, yn sefyll wedi i’r cyn gynghorydd Plaid Cymru, Donna Cushing, orfod sefyll i lawr o’i rôl ar Gyngor Sirol Caerffili wedi iddi gael ei hethol i’r Senedd mis diwethaf.
Mynychodd Anthony Ysgol Gynradd Derwendeg, Cefn Hengoed ac Ysgol Lewis, Pengam, cyn ymuno â’r Fyddin lle bu’n gwasanaethu gyda’r Peirianwyr Brenhinol cyn trosglwyddo i Gatrawd Frenhinol Cymru.
Yn ystod i bron wyth mlynedd o wasanaeth, cwblhaodd gyfnod yn Afghanistan ac yna i Ganada a Gwlad Pwyl, lle bu yn ystod ymosodiad Rwsia ar y Crimea yn 2014.
Wedi gadael y Fyddin yn 2016, gweithiodd Anthony mewn ystod o swyddi, gan gynnwys gyrru HGV, symud peiriannau a throsglwyddo deunydd adeiladu. Yn benderfynol o hyrwyddo’i yrfa, mynychodd ysgol nos tra’n astudio i ennill cymhwyster uwch mewn adeiladu mewn amgylchedd trefol ac mae wedi treulio’r pedair blynedd ddiwethaf yn gweithio’n llwyddiannus fel syrfeiwr a dadansoddwr.
Mae Anthony wedi sôn am ei angerdd ar gyfer darparu cyfleoedd newydd ar gyfer pobl ifanc yn yr ardal. Gan gydnabod nad yw pob plentyn â diddordeb yng nghlybiau chwaraeon yr ardal, mae Anthony am sefydlu allfa ar gyfer ieuenctid, gan gynnwys offerynnau cerdd lle gall gwirfoddolwyr ddysgu pobol ifanc i chwarae.
Mae hefyd yn credu’n gryf bod addysgu pobol ifanc am ein hanes diwydiannol cyfoethog i adeiladu balchder lleol, hyn mae’n teimlo, yw’r allwedd i leihau ymddygiad gwrth gymdeithasol fel fandaliaeth a thaflu sbwriel.
I arwain drwy esiampl, mae Anthony yn bwriadu trefnu a chymryd rhan mewn ymdrechion lleol yn codi sbwriel er mwyn glanhau mannau lle mae problemau fel Potters’ Lane, Cefn Hengoed ac ochrau heolydd lleol.
Ychwanegodd Anthony: “Credaf fod fy nghefndir yn fy mharatoi yn llwyr ar gyfer cyfrifoldebau cynghorwr a fy mhrofiad wedi sefydlu ynof ymdeimlad cryf o ddisgyblaeth ac ymroddiad i ddyletswyddau cyhoeddus.”
Mae Anthony yn briod â Gemma ac yn dad i dri bachgen, o ystod oed o’r ifancaf, sy’n bedair i’r hynaf sy’n ddeuddeg.
Yn ei amser hamdden, mae’n chwarae’r gitâr a chadw’n brysur yn cefnogi ei feibion sydd mor hoff o chwaraeon ac sy’n chwarae i dimau rygbi a phêl droed lleol gan gynnwys Cascade a Phenallta.
Dywedodd y Cygnhroydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerffili: “Rydw i’n sicr y gwnaiff Anthony, gynrychiolydd neilltuol gweithgar ar gyfer ward Hengoed, os caiff ei ethol. Byddai Anthony yn parhau gwaith cymunedol ardderchog ein cynghorydd ward, Teresa Parry.”