Mynnu Atebion am y Cynigion Arfaethedig i Gyfnewidfa Drafnidiaeth £33m Caerffili

Mynnu Atebion am y Cynigion Arfaethedig i Gyfnewidfa Drafnidiaeth £33m Caerffili

Mae Cynghorwyr Plaid Cymru wedi amau'r cynigion newydd ar gyfer y rhwydwaith drafnidiaeth newydd i Gaerffili gan fynnu atebion gan Drafnidiaeth Cymru a Chyngor Caerffili.

Dywedant na fu unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon gyda thrigolion ynghyd â manylion llawn am yr hyn a fwriedir, opsiynau i warchod treftadaeth hanesyddol y dref, manylion am yr anrhefn posib neu amserlen gadarn ar gyfer  unrhyw waith.

Dywedodd y Cynghorydd Greg Ead: “Rydw i’n croesawu buddsoddiad ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ond mae gan drigolion yr hawl i wybod yn union am beth y bydd y £33m o’u harian nhw yn cynnig. Ar hyn o bryd, mae yna fwy o gwestiynau nag o atebion.

Cyn i’r prosiect yma fynd ymhellach, dylai Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi cynlluniau manwl ac ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus llawn fel bod y bobol leol yn cael mynegi eu barn am gynllun a allai effeithio’n sylweddol ar y dref am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd gwrth blaid Plaid Cymru ar Gyngor Caerffili:

“Mae galw ar i Gyngor Caerffili fod yn dryloyw ynglŷn â’r gyllideb. Faint o’r ariannu a roddwyd eisoes i’r prosiect yma, ac a roddwyd ystyriaeth lawn i bob cynllun amgen realistig?

Os oes yna opsiynau amgen a fyddai’n gwarchod cymeriad traddodiadol Caerffili, wrth gynnig y gwelliannau mewn trafnidiaeth sydd arnom eu hangen, dylai’r rhain fod ar y bwrdd. Ein treftadaeth yw un o’n hasedau mwyaf, a dylai unrhyw fuddsoddiad ei wella yn hytrach na’i leihau.

“Hefyd mae yna gwestiwn mwy helaeth ynglŷn â sut mae Cyngor Caerffili Llafur yn gweld y dref. Ydyn nhw’n gweld Caerffili ond fel cymuned ôl ddiwydiannol, neu ydyn nhw’n ei gweld fel yr hyn yw hi - tref â hanes rhyfeddol, yn ddiwylliannol gyfoethog ac yn un  o asedau treftadaeth fwyaf eiconig Cymru?

"Mae’r ffordd y gwelwn ein tref yn mowldio’r penderfyniadau a gymerwn a’r dyfodol yr ydym yn ei adeiladau. Os wnawn ni barhau i weld Caerffili drwy lens ôl ddiwydiannol, mae peryg i ni fethu’r cyfleoedd sydd yn dod wrth gofleidio ein treftadaeth a’n hunaniaeth ddiwylliannol. Dylai’n dyfodol ddod â’r rhain at ei gilydd, gan greu tref sy’n dathlu ei gorffennol wrth fuddsoddi mewn isadeiledd modern, twristiaeth, adfywiad a thyfiant economeg. Dydy’r uchelgeisiau hyn ddim yn gwrthdaro â’i gilydd - dylen nhw fynd law yn llaw.”

 Mae Plaid Cymru wedi uwcholeuo pwyntiau allweddol o’r hyn sy’n achosi consyrn:

 ·         Dyrannu £33m o arian cyhoeddus, ond hyd yn hyn ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am yr union a fydd y cynllun yn ei roi.

· Ni roddwyd y rhesymau mewn manylder i drigolion am y gwelliannau a gynigir, gan gynnwys yr hyn a fyddai’r ariannu yn darparu gan gynnwys adeilad newydd i’r orsaf, cynulliad, pont droed, cyfleusterau i deithwyr, gwelliant i’r hwb drafnidiaeth neu isadeiledd pellach.

· Ni fu unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon â thrigolion Caerffili cyn y cyhoeddwyd y cynllun, er gwaethaf ei effaith ar ganol y dref a rhwydwaith drafnidiaeth.

· Mae pobol leol yn haeddu llais mewn unrhyw brosiect adfywiad a fyddai’n effeithio ar eu teithio beunyddiol, busnesau a chymuned.

·  Mae cwestiynau yn parhau ynglŷn â gwerth am arian, yn enwedig ar adeg pan fo cymaint ohonom yn bryderus am y pwysedd sydd ar wasanaethau cyhoeddus ac isadeiledd lleol.

· Mae ansicrwydd a yw £33m yn ddigonol i ddarparu’r lefel o drawsnewidiad a awgrymir, gan godi consyrn am gostau yn y dyfodol yn cynyddu neu mwy o geisiadau am fwy o gyllid.

· Ni chyhoeddwyd unrhyw fath o linell amser, sy’n gadael trigolion yn ansicr o bryd y mae gwaith i gychwyn, am ba hyd y byddant yn parhau a phryd a welir unrhyw fuddiannau.

· Ni eglurwyd yn llawn faint fydd potensial ar gyfer aflonyddwch, gan gynnwys yr effaith ar deithwyr ar y rheilffyrdd, cymudwyr, busnesau lleol, trafnidiaeth a mynediad i ganol y dref yn ystod y gwaith adeiladu.

· Mae tryloywder yn hanfodol.  Dylai trigolion fod yn gallu gweld cynlluniau manwl, costau, a threfniadau cludiant cyn bod penderfyniadau yn cael mynd yn eu blaen.

· Mae hyder y cyhoedd yn  mynnu bod popeth yn agored. Dylai Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi ystod lawn y prosiect gan ymgymryd ag ymgynghoriad cyflawn gyda thrigolion, busnesau a chynrychiolwyr etholedig.