Trigolion Tretomas yn Wynebu Oediad Hir am Fwy o Le Parcio

Trigolion Tretomas yn Wynebu Oediad Hir am Fwy o Le Parcio

Mae trigolion yn Nhretomas, sydd yn ymgyrchu am fwy o le parcio, wedi dioddef oediad yn eu hymgyrch.

Mae swyddogion cyngor Caerffili wedi dweud wrth un o drigolion Stryd Navigation, Brian Masters, bod angen newid  y Gorchymyn Trefniadau Trafnidiaeth (TRO) os bydd y llinellau melyn dibwl i’w dileu ac mae tagfa cynlluniau.

Gosodwyd y llinellau merlyn i lawr yn wreiddiol er mwyn cadw’r heol yn glir ar gyfer cerbydau trwm oedd yn gwasanaethu glofa Bedwas, a gaewyd yn 1986.

Dywedodd ymgyrchydd cymunedol Plaid Cymru, Brian Masters: “Yn 2024 cyfarfûm â Swyddog Cyngor  Sirol ar y safle i drafod y mater hwn. Rydw i’n siomedig iawn, dwy flynedd yn ddiweddarach, bod cyngor Caerffili wedi derbyn nad oes angen y llinellau melyn bellach,ond  dydyn ni damaid yn agosach i gael gwared ohonynt.

“Mae’r hyn sy’n ymddangos fel llwythi o dâp coch o fewn y broses gyfreithiol angenrheidiol i ond diwygio'r gorchymyn trafnidiaeth,ac mae hynny’n rhwystredig.

“Byddai cynyddu’r modd i barcio yn yr ardal hon yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r trigolion sy’n aml yn straffaglu i barcio yn agos i’w cartrefi.”