Dywed Aelod y Senedd Lindsay Whittle ei fod yn gynyddol ofidus na chaiff Llancaeach Fawr hanesyddol ger Nelson ailagor byth eto.
Mae’r maenordy Tuduraidd nawr wedi bod ar gau dros ddau Haf ac mae’n ymddangos nad oes unrhyw obaith y bydd e eto’n croesawu ymwelwyr yn fuan.
Dywedodd Lindsay Whittle sydd yn gyn arweinydd cyngor Caerffili “Dwy ddim yn credu i ni gyrraedd y gwraidd ynglŷn â’r hyn sydd ar fin digwydd gyda Llancaeach Fawr.
“Mae arweinydd y cyngor wedi siarad am y ffordd orau ar gyfer gweithredu Llancaeach Fawr ond roedd angen mynd i’r afael gyda materion cyfreithiol, ariannol a gweithredol sydd angen bwrw ati i’w datrys.
“A dweud y gwir, mae hwn yn troi i mewn yn gyfan gwbl i ffars o wneuthuriad y Blaid Lafur. Mae’r tirnod yma ail mwy pwysig yn y Fwrdeistref Sirol - wedi castell Caerffili - yn gorwedd ar gau a does gennym ni ddim syniad o gwbl os neu pryd fydd Llancaeach Fawr yn ailagor.
“Mae’r ffordd y trafodwyd yr holl fater yma yn peri gofid i mi ac rydw i’n gofidio fwyfwy y bydd e byth eto yn agor i’r cyhoedd. Byddwch yn onest, Cyngor Caerffili,” ychwanegodd Aelod y Senedd dros Flaenau Gwent, Caerffili, Rhymni.
Gosododd nifer o gwestiynau i arweinyddiaeth y cyngor.
1. Ydy’r cyngor ar hyn o bryd mewn trafodaethau â gweithredwr dewisol ac, os felly, am ba hyd y bu hyn yn mynd ymlaen?
2. Beth yw’r rhesymau manwl ar gyfer yr oediad hir wrth ddod i ben â chytundeb?
3. Oes gan y cyngor ddyddiad targed ar gyfer dod i ben â’r trafodaethau?
4. A wnaiff y cyngor ymroi i ailagor Llancaeach Fawr mewn da bryd ar gyfer dechrau tymor traddodiadol yr ymwelwyr adeg y Pasg 2027?
5. Beth yw holl gost cynnal a chadw'r maenordy a’i diroedd ers iddo gau?

Dywedodd y Cynghorydd Charlotte Bishop, arweinydd grŵp gwrthblaid Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Dylai Llancaeach Fawr fod yn fyw o storïau, hanes ac ymwelwyr - nid yn sefyll ar gau ac yn diflannu i mewn i’r cefndir.
“Mae’n rhan eiconig o’n treftadaeth, ac eto ni’n parhau i wario arian tra’n amddifadu pobol o’r cyfle i brofi a’i fwynhau. Mae ein hanes yn perthyn i’r bobol, ac mae’n haeddu bod ar agor, ei drysori a dod ag e yn ôl yn fyw.”