Gwleidyddion Plaid Cymru yn Annog y Cyngor i Ailfeddwl Ynglŷn â Chau Llyfrgelloedd

Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi galw ar gyngor Caerffili i ailfeddwl eu penderfyniad i gau nifer o lyfrgelloedd yn ei ardal.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad gan yr uchel lys o blaid yr awdurdod. Gwrthododd y barnwr ganiatâd i ymgyrchwyr lleol am adolygiad barnwrol i fynd yn eu blaen.

Dywedodd Charlotte Bishop arweinydd grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerffili: “Rydw i’n ffieiddio. Ac rydw i’n grac. Mae’r adolygiad barnwrol wedi methu, ac mae’r cyngor nawr yn gallu mynd ymlaen â chau’r llyfrgelloedd.

“Dydy hyn ddim yn unig am  ddarparu adeilad â both. Mae hyn yn ymwneud ag amddifadu cyfleoedd oddi wrth rhai o’r cymunedau tlotaf yng Nghaerffili.

“Does gan bob plentyn ddim llyfrau yn y cartref. Does gan bob plentyn ddim gliniadur, rhyngrwyd boddhaol neu fan  tawel i eistedd i wneud eu gwaith cartref. I rai plant ond yn y llyfrgell mae’r pethau hyn ar eu cyfer. Mae’n fan i ddarllen, dysgu, defnyddio cyfrifiadur, mynd ar lein, gwneud gwaith cartref a chael mynediad i bethau nad oes ganddynt efallai yn y cartref.

“Ac  yn wir, mae bothau cymunedol yn iawn, ond dydyn nhw ddim yn gallu cymryd lle llyfrgell y mae plant ac oedolion yn gallu dibynnu arnynt.

“Yna, gwylio popeth arall yn digwydd. Llyfrgelloedd yn cael eu torri. Gwasanaethu hamdden yn cael eu dileu. Newid mewn trafnidiaeth. Mae canlyniadau i bob un o’r penderfyniadau hyn.

“Wrth gau canolfan hamdden gall ysgolion straffaglu wrth gael plant i nofio am nad ydynt yn gallu fforddio’r drafnidiaeth. Pe gwnaed trafnidiaeth yn rhatach, os gwnewch drafnidiaeth yn fwy anodd gwneir mynd at addysg yn fwy anodd. Caewch lyfrgell ac rydych yn mynd ag adnoddau y mae rhai plant yn wirioneddol yn dibynnu arnynt.

“A hyn sy’n peri gofid i mi.

“Rydym wedi cael cylched ddiddiwedd o amddifadiad a thlodi yn ail adrodd ers yr 1980au. Cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, ond yn lle torri’r gylchedd yma, ni’n amddifadu rhai o’r union bethau y gallai fod o gymorth i blant dorri allan rhywfaint.

“Mae addysg yn cyfrif. Mae mynediad i lyfrau yn cyfrif. Mae mynediad i gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd yn cyfrif. Mae cael man diogel i ddysgu yn cyfrif. Felly, os ydym yn wirioneddol am ymosod ar dlodi, yna mae’n rhaid i ni fuddsoddi yn ein plant yn tyfu lan yn y cymunedau hynny, nid eu hamddifadu. 

“Dydw i ddim yn gweld pa werth ychwanegol ydyn ni’n ei rhoi i bobol Caerffili drwy barhau i dorri nôl ar y gwasanaethau  y maent yn dibynnu arnynt. Gwelaf mwy o rwystrau. Mwy o bwysedd ar deuluoedd. Llai o gyfleoedd ar gyfer ein plant. Mae ein cymunedau yn haeddu gwell.”

Dywedodd Lindsay Whittle, Aelod y Senedd dros Flaenau Gwent, Caerffili, Rhymni: “Rydw i’n siomedig iawn gyda’r dyfarniad ac yn annog yr arweinyddiaeth Lafur cyngor Caerffili i adolygu eu penderfyniad blaenorol ar lyfrgelloedd.

“Mae’r cyngor wedi torri cyfleusterau chwaraeon, canolfannau cymunedol ac wedi atal bysiau ysgol rad ar gyfer rhai disgyblion. Mae pobol yn sicr o ofyn,’Am beth ydy’n ni’n talu’n trethi i’r cyngor?’ Nid hon yw noson y llafnau hir, ni wedi dioddef blynyddoedd lafnau hir. Toriadau, toriadau, toriadau, ni’n mynd wysg ein cefnau.

“Does gen i ddim gofidiau am gymunedau, os ydyn nhw’n dymuno, yn cymryd gafael yn eu llyfrgelloedd. Lwc dda, iddynt. Ond mae swydd llyfrgellydd yn gofyn am sgiliau - dyw e ddim yn ymwneud â stampio llyfrau, eu rhoi nhw allan a’u casglu drachefn. Mae rhedeg llyfrgell yn swydd fawr a chyfrifol,” ychwanegodd Lindsay Whittle, sy’n gyn arweinydd cyngor Caerffili.