Cynghorydd y Blaid yn Rhybuddio y Byddai Traffig yn Methu Symud Gyda’r Cynllun Datblygol Diweddaraf

Cynghorydd y Blaid yn Rhybuddio y Byddai Traffig yn Methu Symud Gyda’r Cynllun Datblygol Diweddaraf

Mae cynghorydd Plaid Cymru, Steve Skivens, wedi rhybuddio bod Caerffili dan fwy byth o bwysedd gan adeiladwyr tai.

Mae cynghorydd Plaid Cymru, Steve Skivens, wedi rhybuddio bod Caerffili dan fwy byth o bwysedd gan adeiladwyr tai.

Mae’r cynghorydd dros Benyrheol wedi rhybuddio'r hyn yw canlyniadau dwys a ddaw yn sgil datblygiadau diweddaraf Cyngor Caerffili, fydd yn arwain at drafnidiaeth yn methu symud.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Skivens bod safleoedd mewn nifer o wardiau gan gynnwys, Cwm yr Aber, Penyrheol, Sant Martin, Llanbradach, Machen, Bedwas a Thretomas lle gellir gweld mwy o adeiladu yn digwydd.

Hefyd dywedodd y Cynghorydd Steve Skivens: “Mae Caerffili dan bwysedd gan ddatblygwyr ar gyfer mwy o safleoedd nag erioed o’r blaen. Mae adeiladu tai yn ddiwahân yn rhoi pwysedd ar fywydau trigolion, gweithwyr a phlant heddiw. Collwyd mannau gwyrdd, collwyd cynefinoedd naturiol, mae mannau hamdden agored dan fygythiad a lleihad sylweddol yn ansawdd yr awyr.“

Dywedodd bod ceisiadau neu botensial am safleoedd dan Gynllun Adennill Lleol i fyny at 2035 eisoes wedi eu cydnabod.

“Dywed llawer bod ceir yn methu a symud yng Nghaerffili yn aml iawn ar adegau prysur, yn ystod gweithfeydd ar yr heolydd neu pan fu damwain. Gwahoddaf y trigolion i ofyn iddyn nhw eu hunain, Ydy eich teithiau i’ch gweithle, yr ysgol neu siopa beunyddiol wedi gwella ers 2020?

“Eto, cynlluniau Llafur yw adeiladu mwy a mwy o dai heb roi ystyriaeth drylwyr i’r canlyniadau. Gyda chymaint o deuluoedd erbyn hyn â dau gar, ymddengys na ellir osgoi’r canlyniadau.

“Ni all isadeiledd ein heolydd ddal y defnydd presennol na’r cynnydd arfaethedig o ran tai. Rhaid i ni weithredu nawr neu genedlaethau’r dyfodol sy’n mynd i ddioddef.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Steve Skivens: “Mae Plaid Cymru am weld ymgynghoriad ar gynlluniau i sicrhau yr hyn yw anghenion cymunedau, gan wrando  ac yna sylfaeni penderfyniadau ar y farn a fynegir. Dylai pob datblygiad feddu ar gytundeb bras ac nid eu rheoli gan garfan fach o gyrff corfforaethol.

“Mae Plaid Cymru yn cydnabod galw am dai mewn ambell fan. Beth bynnag, o gofio cefndir lle mae poblogaeth sy’n lleihau ac yn heneiddio rhaid i ni godi’r math iawn o dai yn y mannau lle mae galw amdanynt. Nid lledaenu ymlediad trefol."