AS y Blaid yn y Senedd yn Codi Argyfwng Gofal Coridor Mewn Ysbyty Gymraeg

AS y Blaid yn y Senedd yn Codi Argyfwng Gofal Coridor Mewn Ysbyty Gymraeg

Mae Aelod Senedd Caerffili, Lindsay Whittle wedi holi’r Prif Weinidog Eluned Morgan heddiw am argyfwng gofal mewn coridorau mewn ysbytai.

Disgrifiodd AS y Blaid y sefyllfa yn un oedd  “yn ddangosydd dwys ddychrynydd o’r pwysedd difrifol sy’n wynebu GIG Cymru.”

Cododd Lindsay Whittle y mater yn ystod cyfnod holi’r Prif Weinidog.

Disgrifiodd y gofal mewn coridorau fel rhywbeth oedd yn cynrychioli, “methiant creoddool i gynnal urddas a chysur sylfaenol cleifion bregus.”

“Gallaf enwi nifer o unigolion sydd wedi dod ataf i ers i fi gael fy ethol sydd wedi profi lefelau annerbyniol o ofal yn ein byrddau iechyd yn ddiweddar. Un, hen ffrind ysgol fethodd yn anffodus a’i gwneud hi. Mae hyn yn annerbyniol ac nid dyma’r safon o ofal y mae pobol yng Nghymru yn haeddu ac mae’n atgof poenus na ddylai unrhyw deulu ei ddioddef.

“Mae hyn yn arwain at fethiannau, gwaethygu heriau cynaliadwy, a gosod mwy byth o straen ar weithlu sydd eisoes wedi’i eu gor-ymestyn. Mae mynd i’r afael â gofal mewn coridorau, felly, yn cynnwys nid yn unig gweithredu’n fuan i ddiogelu urddas cleifion, ond ymroddiad difrifol i werthfawrogi a chynnal staff sy’n dal ein gwasanaeth iechyd  at ei gilydd dan bwysedd annioddefol,” ychwanegodd Lindsay Whittle.

“Mae’n bosib fod Lindsay Whittle wedi darllen y datganiad olaf ‘na ond yr hyn sy’n wirioneddol annogol yw i hyn ddod oddi wrth gleifion yr ydw i wedi siarad â nhw yn ddiweddar. Nid oherwydd consyrn amdanyn nhw eu hunain, er bod eu teuluoedd yn becso, ond dros y staff oedd yn gofalu amdanyn nhw.”

Roedd e am wybod beth oedd cadeiryddion y byrddau iechyd yn ei wneud i fynd i’r afael â’r mater.

Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog: “Does neb ohonom am weld y rhai ni’n eu caru yn derbyn triniaeth mewn coridorau. Rydym wedi ei gwneud hi’n glir bod hyn ddim yn rhywbeth sydd yn dderbyniol i Lywodraeth Cymru. Rydym yn cefnogi byrddau iechyd i yrru i lawr gofal mewn gofod dros dro mewn ysbytai, drwy gynnig cymorth i ymestyn cynhwysedd clinigol."