Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru wedi siarad am ei rwystredigaeth dros fethiant Cyngor Caerffili i weithredu dros adeilad hyll, lathenni o gastell eiconig y dref.
Mae’r adeilad swyddfa ddiffaith ar Crescent Road wedi bod yn wag ers llawer o flynyddoedd â’r ffenestri wedi’u torri ac mae graffiti arno.
Dywedodd y Cynghorydd Lindsay Whittle: “Fedrwch chi ddychmygu adeilad hyll yr ochr draw i Gastell Windsor sydd wedi bod yn ddiffaith ers blynyddoedd a heb unrhyw ymateb gan yr awdurdod lleol? Byddai hyn byth yn digwydd, ond yn achos Caerffili mae rhyw amharodrwydd i’w weld i weithredu drwy orfodi’r perchnogion i lanhau’r safle. Mae’n cyflwyno delwedd ofnadwy ar gyfer y nifer fawr o ymwelwyr sydd yn cyrraedd y prif faes parcio yn eu ceir a’u bysiau.”
Cafodd wybod gan swyddogion bod ceisiadau cynllunio i adeiladau 39 fflat, uned manwerthu ac i fynd i’r afael â llysiau’r dial (Japanese Knotweed) ar y safle.
“Unwaith y caiff y ceisiadau hyn eu penderfynu ac os cânt eu derbyn, fe nealltwriaeth i yw y bydd gwaith bwrw’r adeilad i lawr yn dechrau,” dywedodd swyddog o’r cyngor wrth y Cynghorydd Whittle.
Ond dywed y Cynghorydd Lindsay Whittle nad yw hyn yn ddigon da.
“Fe gymer amser i benderfynu ar y ceisiadau. Yna, bydd gan yr ymgeisydd hyd at bum mlynedd i adeiladu’r fenter newydd. Yn y cyfamser, mae’r adeilad yn edrych fel rhywbeth allan o dref adfeiliedig."