Dywed Aelod y Cynulliad Lindsay Whittle bod gormod o dalentau ifanc yn y cymoedd yn cael eu gorfodi i symud bant o’r ardal er mwyn dod o hyd i yrfaoedd cynaliadwy hir dymor.
Gwasgodd Lindsay Whittle ar Adam Price, Gweinidog Menter, ar y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cyfleoedd cyflogaeth yn ardal Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni y mae e’n ei gynrychioli.
Dywedodd Lindsay Whittle heddiw (Dydd Mercher): “Fy nghonsyrn i yw bod gormod o’n pobl ifanc talentog ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Rhymni yn dal i deimlo bod yn rhaid iddynt symud bant i ddod o hyd i yrfaoedd sy’n gynaliadwy a thymor hir.
“Y tu hwnt i ffynonellau ariannu cyffredinol, pa sicrwyddn sydd wedi’u targedu y gall Llywodraeth Cymru ddarparu er mwyn creu swyddi a sgiliau sydd â dyfodol o fewn eu hardaloedd lleol, fel ein bod yn gallu atal allforio ein cenhedlaeth nesaf?
Ei gwestiwn i’r Gweinidog oedd y tro cyntaf i Lindsay, fel un sy’n dysgu’r Gymraeg, wedi gofyn cwestiwn i’r Senedd yn y Gymraeg.
Dywedodd Adam Price, wrth ymateb: “Mae’r cwestiwn hwn wrth galon ein strategaeth economeg. Y bore yma (Dydd Mercher) cyfarfûm am y tro cyntaf gyda phanel sy’n ein cynorthwyo i lunio’r Asiantaeth Ddatblygu newydd.
“Un o’r themâu roeddwn i wedi pwysleisio yw’r galw am sicrhau ein bod yn generadu swyddi da ym mhobman. Dydyn ni ddim am weld sefyllfa lle mae Cymru yn dynwared yr hyn yr ydym wedi ei weld yn nhermau’r datblygiadau anwastad ar draws y DU lle mae digonedd ond yn bodoli mewn ond un gongl o’n teyrnas.
“Rydym am i dde ddwyrain Cymru ffynnu, rydym am i’r Gogledd Ddwyrain ffynnu. Rydym yn falch iawn o’r llwyddiant sydd wedi bod yno ond rydym hefyd eisiau hyn i ymledi i’r cymoedd, Blaenau’r Cymoedd draw i’r Gorllewin, i mewn i Gymru wledig ac i mewn i Ogledd Orllewin Cymru. Rhaid i ni ddyrchafu Cymru gyfan a dyna’r hyn yr ydym ni fel Llywodraeth yn bwriadu gwneud a dyna’r gennad ni wedi gosod yn ei lle ar gyfer yr Asiantaeth Ddatblygu newydd.”