Lindsay Whittle yn Cyflwyno’r Achos Dros Ysbyty Ystrad Fawr yn Dod un o Bothau Llawfeddygol Newydd Cymru

Lindsay Whittle yn Cyflwyno’r Achos Dros Ysbyty Ystrad Fawr yn Dod un o Bothau Llawfeddygol Newydd Cymru

Dywed Aelod o’r Senedd, Plaid Cymru, Lindsay Whittle ei fod yn gobeithio y bydd grŵp arbenigol sydd yn edrych ar ddatblygu deg both llawfeddygol hyd a lled Cymru gan argymell sefydlu un yn Ysbyty Ystrad Fawr (YYF Hospital).

Dywedodd Aelod y Senedd Blaenau Gwent, Caerffili, Rhymni bod gan ysbyty Ystrad Mynach – a agorwyd ar gyfer cleifion yn 2011 – llawer o fanteision a fyddai’n ei gwneud yn fan delfrydol ar gyfer un o’r bothau newydd, yn ei farn ef.

Wrth gyflwyno’r achos dros YYF dywedodd Lindsay Whittle: “Ni fyddai galw am fwy o wariant ar adeiladau, gan arbed adnoddau, ac mae yno ddwy theatr lawfeddygol y gellid eu defnyddio ar gyfer llawdriniaethau arbenigol.

“Mae hi hefyd yn ysbyty fodern a, hyd y gwelaf i, mae wedi cael ei tan ddefnyddio yn nhermau’r gwasanaethau a ddarparir - ers ei hagor. Mae Ysbyty Ystrad Fawr hefyd mewn lleoliad neilltuol yng nghalon y cymoedd.

“Mae pobol yr ydw i’n siarad â nhw yn gyffrous am addewid Plaid Cymru i sefydlu hyd at ddeg both llawfeddygol. Maent wedi disgwyl yn rhy hir am driniaeth, yn aml mewn poen ac am i’w CIG fod yn well.

“Dywedodd pleidleiswyr wrthyf fi, cyn etholiad y Senedd, bod y galw am driniaeth fwy buan a rhestri aros byrrach, ymhlith y rhesymau allweddol dros gefnogi Plaid Cymru.”

Mae’r grŵp dan arweiniad clinigol arbenigol etholedig yn anelu at gynhyrchu cynllun i gyflwyno hyd at ddeg both llawfeddygol hyd a lled Cymru erbyn diwedd 2026. Bydd y bothau yn hybu cynhwysedd llawfeddygol a diagnostig i esmwythhau’r pwysedd brys y mae ysbytai yn eu hwynebu ar hyn o bryd. “Mae hwn yn ffordd gadarnhaol o fynd i’r afael â thagfeydd rhestri aros a etifeddwyd oddi wrth Lafur,” ychwanegodd Lindsay Whittle.