Lindsay Whittle yn Condemnio Galwad Reform i Dynnu i Lawr Baner Wcráin o Du Allan i’r Senedd

Lindsay Whittle yn Condemnio Galwad Reform i Dynnu i Lawr Baner Wcráin o Du Allan i’r Senedd

Mae’r Aelod y Senedd, Lindsay Whittle wed condemnio galwad gan Reform i dynnu i lawr baner Wcráin sy’n hedfan y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd.

Dywedodd Lindsay Whittle: “Dengys y cais hwn pa mor bell o realiti y mae Reform â chefnogaeth lethol mwyafrif pobol Cymru sydd yn cefnogi’r frwydr ddewr yn erbyn goresgynwyr Rwsiaidd.”

Cysylltwyd ag aelod Blaenau Gwent, Caerffili a Rhymni gan Yuliia Bond, aelod o’r gymuned Iwcranaidd, sydd nawr yn byw yn Sir Caerffili,  i ofyn iddo am ei gefnogaeth.

Dywedodd Lindsay Whittle: “Gallaf ddweud heb flewyn ar fy nhafod fy mod yn cefnogi cyhwfan baner Iwcrain y tu allan i’n Senedd yng Nghaerdydd. Dylem sefyll i fyny yn erbyn Putin a’i gyfundrefn sydd yn bomio pobol ddiniwed yn gyson yn yr Iwcrain ac mae chwifio’r faner yn arddangos cefnogaeth i’w brwydr.

“Byddai llawer gwell  i bawb petai aelodau Reform yn y Senedd yn atal cynhyrfu pethau pob cyfle.”