Mae Lindsay Whittle, Aelod y Senedd dros Gaerffili wedi galw am fwy o unedau symudol ar gyfer sgrinio canser y fron er mwyn ei ymestyn i fwy o ardaloedd hyd a lled Cymru.
Holodd AS Plaid Cymru'r Gweinidog Iechyd, Jeremy Miles ar y mater yn y Senedd.
Dywedodd: “Credaf ei bod yn gyfrifoldeb ar bawb ein bod yn sicrhau cyrraedd y targed o 80 y cant ar gyfer sgrinio. I fi, hwn oedd fy ail Bwyllgor Deisebu a chefais sioc o weld mor isel oedd y ffigwr mewn rhai etholaethau.
“Ymddengys bod rhwystr arwyddocaol yn statws yr unedau symudol. Er enghraifft, dywedwyd wrthyt fod uned Ynys Môn yng Nghaergybi drwy’r amser, tra yn fy etholaeth i mae’n gyson ym mhentref Ystrad Mynach.
“Weinidog, wnewch chi os gwelwch yn dda, adolygu strategaeth gweithrediad yr 11 uned symudol i sicrhau eu bod yn cylchredeg drwy fwy o gymunedau gwledig ac ynysig, a bod y cyfathrebu gwael chi newydd sôn amdano, yn symud mwy yn hytrach nag aros yn yr unfan pob cylchred?
“Mae galw arnom i gynyddu cefnwlad yr unedau symudol hyn. Sonioch chi ei fod ymhlith y cymunedau tlotaf. Maen nhw yn rhy bell i ffwrdd a dyw pobol ddim yn gallu fforddio teithio yno.”
Dywedodd y Gweinidog bod y nifer sy’n derbyn ym mwrdeistref sirol Caerffili yn 71.2% ac o fewn Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn 70.5% - ychydig yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.