Safbwynt: Charlotte Bishop, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Safbwynt: Charlotte Bishop, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Dywed Llafur nad oes arian gennym. Felly pam maen nhw’n parhau i roi asedau i ffwrdd a allai fod yn talu am ein gwasanaethau cyhoeddus.

Adroddir yr un hen stori  wrthym pob blwyddyn: does dim arian. Mae llyfrgelloedd dan bwysau. mae gwasanaethau hamdden yn cael eu cwtogi. Mae heolydd yn dirywio. Mae gwasgfa ar wasanaethau cymunedol.

Yna, pan gaiff y cyngor y cyfle i greu incwm hir dymor, maent yn gwneud y gwrthwyneb.

Cymerer Llancaeach Fawr

Am bron i ddwy flynedd, mae un o ddeniadau twristiaeth fwyaf Caerffili wedi bod ar gau gan generadu dim byd. Dyna ddwy flynedd o ymwelwyr coll, gan golli swyddi ac incwm.

Nawr deallwn fod ymgymerwr preifat yn barod i ymgymryd a hyn.

Mae hyn yn codi’r cwestiwn syml: os ydy cwmni preifat yn credu y gall Llancaeach fawr wneud arian, pam na fedr Llafur?

Pam nad oedd yr uchelgais i greu busnes dan berchnogaeth y cyngor a allai ddod ag elw blwyddyn ar ôl blwyddyn - elw y gellid fod wedi ei ail fuddsoddi yn ein llyfrgelloedd, parciau, r a gwasanaethau yn y rheng flaen yn lle ymadael â’r fwrdeistref?

Yna, roedd Fferm Solar Cwm Ifor.

Cafodd y trigolion addewid o brosiect egni   fflaglong werdd fyddai yn creu ffynhonnell incwm hir dymor ar gyfer cymunedau lleol. Yn lle hynny, fe werthodd Llafur hyn.

Efallai byddai chwistrelliad buan o arian wedi bod o gymorth i’r gyllideb, ond beth am yr 20 neu’r 30 mlynedd nesaf?  Bydd yr elw a ddylai fod yn eiddo i bobol Caerffili nawr yn eiddo i rywun arall.

Nid buddsoddi yw hyn. Gwerthu fory i dalu heddiw yw hyn.

Y gwahaniaeth yw hwn rhwng rheoli dirywiad a chynllunio dros dyfiant.

Dylai asedau cyhoeddus fod yn gweithio dros bobol leol, yn cynhyrchu incwm a fyddai’n gwarchod gwasanaethau a lleihau’r pwysedd ar dreth y cyngor - yn lle bod yn gyfleoedd i gael yr arian ac wedyn symud ymlaen.

Mae galw am gyngor sy’n meddwl fel buddsoddwyr, nid fel diddymwyr.

Oherwydd mae pob ased ni’n rhoi i ffwrdd yn gyfle pellach a gollir. Mae pob ffrwd incwm ni’n methu creu yn golygu esgus pellach dros wneud toriadau yn y dyfodol.

Y cwestiwn yw, nad yw cwmnïau preifat yn gallu gwneud asedau yn broffidiol.

Y cwestiwn yw, pam nad yw Llafur byth yn credu bod y cyngor yn gallu.